Apêl clwb Bangor am gymorth ariannol

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed BangorFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Bangor

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn galw am gymorth cyfranddalwyr ar ôl i gredydwyr atal cyflenwadau dŵr a thrydan i'r clwb.

Mae Bangor yn parhau yn obeithiol y byddant yn gallu cynnal eu gêm yn erbyn Gresffordd dydd Sadwrn yng Nghynghrair Undebol Huws-Gray, er gwaetha'r ffaith fod ganddynt ddyledion o £80,000.

Mewn datganiad dywed y clwb eu bod wedi cael bil trydan o £16,000 ar gyfer y cyfleusterau y maen nhw - a'r perchnogion Nantporth CIC - yn defnyddio, a bod y cyflenwad wedi ei atal.

Awgrymodd y datganiad fod y bil iddyn nhw yn annheg gan mae Nantporth CIC oedd yn defnyddio'r gyfran fwyaf o'r adnoddau.

Dywed Bangor fod eu cyflenwad dŵr hefyd wedi ei atal, gyda bil o £9,000 yn ddaliadwy.

Ychwanegodd y datganiad fod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn ceisio talu'r dyledion, gan gynnwys arian y mae'r clwb yn dweud sy'n ddyledus iddyn nhw gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cyfanswm yr holl gredydwyr yw £80,000, yn ôl y clwb.