Pryder am wneud Saesneg yn bwnc gorfodol i blant bach
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi eu codi am fwriad Llywodraeth Cymru i wneud Saesneg yn bwnc gorfodol i blant mewn cylchoedd meithrin.
Dywedodd undeb addysg UCAC bod y cynnig ym Mhapur Gwyn y cwricwlwm newydd yn "destun pryder sylweddol iawn".
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru hefyd wedi codi pryderon.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod unrhyw awgrym fod y cynlluniau'n niweidiol i'w hymdrechion o ran dwyieithrwydd yn "afresymol".
Ar hyn o bryd, nid yw'r Saesneg yn cael ei chyflwyno mewn cylchoedd meithrin ac ysgolion cyfrwng Cymraeg tan fod plentyn yng Nghymru yn saith oed.
O dan y cynlluniau newydd, byddai'r Saesneg yn cael ei chyflwyno i blant tair oed.
'Bygwth trefn hynod effeithiol'
Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, fod y drefn bresennol yn rhoi "gafael cynnar a naturiol ar y Gymraeg i'r plant tra'n caniatáu iddynt ddatblygu eu sgiliau Saesneg yn llawn hefyd".
"Mae'r cynnig yma'n bygwth y drefn hynod effeithiol sy'n bodoli ar hyn o bryd ac yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg," meddai.
"Mae'n bwysig yn ogystal tynnu sylw at y ffaith nad yw'r cynnig yn dod o adroddiad Yr Athro Graham Donaldson 'Dyfodol Llwyddiannus' - sy'n sail ar gyfer y diwygiadau i'r cwricwlwm."
Yn ôl Siân Gwenllian AC, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a'r Gymraeg, mae'r cynnig yn "tanseilio holl athroniaeth addysg cyfrwng Cymraeg a phrofiad degawdau o gynllunio ieithyddol yng Nghymru".
"Mae'r cynnig hwn yn mynd yn hollol groes i addewid Llywodraeth Cymru i greu Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ac fe ddylid ei dynnu ymaith yn ddiymdroi," meddai.
Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, y gallai'r cynnig "danseilio degawdau o dwf addysg Gymraeg".
"Byddai gorfodi cylchoedd meithrin Cymraeg i addysgu'r Saesneg yn gam mawr yn ôl ac yn ergyd fawr i ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr.
"Rydyn ni'n byw mewn gwlad ac mewn byd lle mae'r Saesneg yn hollbresennol, tra bod y gofodau lle mae'r Gymraeg yn norm yn brin iawn," meddai.
"Mi fyddai'r cynigion yma'n golygu llai o ofodau lle mae plant yn cael eu trochi yn y Gymraeg."
'Afresymol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n afresymol honni bod ein diwygiadau i'r cwricwlwm yn niweidiol, mewn unrhyw ffordd, i'n huchelgeisiau o ran dwyieithrwydd.
"Mae trochi plant yn y Gymraeg yn gynnar yn ffordd bwysig o sicrhau plant dwyieithog.
"Bydd y trefniadau arfaethedig yn caniatáu i hyn barhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019