Cynlluniau i ehangu Clwb Ifor Bach Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb ifor bach
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Ifor Bach yn enwog am fod yn gefnogwr mawr o gerddoriaeth iaith Gymraeg

Mae Clwb Ifor Bach, Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu'r safle ar ôl llwyddo i sicrhau prydles ar gyfer yr adeilad y drws nesaf.

Mae'r lleoliad ar Stryd Womanby yn cynnal nifer o gigs ac yn enwog am fod yn gefnogwr mawr o gerddoriaeth iaith Gymraeg.

Daw'r newyddion yng nghanol cyfnod o ansicrwydd ar gyfer sin gerddorol y brif ddinas ar ôl i Gwdihŵ a bar Buffalo gyhoeddi eu bod yn cau.

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Ifor eu bod nhw'n gobeithio "creu lleoliad sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif."

Ers agor ei ddrysau yn 1983 mae Clwb Ifor Bach wedi croesawu sawl band neu artist sydd wedi mynd yn eu blaenau i sicrhau llwyddiant rhyngwladol.

Ymysg y rhai sydd wedi perfformio yno mae Coldplay, Stereophonics, The Strokes, The Killers a'r Super Furry Animals.

'Calon cerddoriaeth y ddinas'

Ychwanegodd y datganiad bod y gwaith yn bosib ar ôl i Gyngor Caerdydd gytuno i gaffael yr adeilad y drws nesaf, a'i brydlesu i Glwb Ifor am y tymor hir.

"Rydym yn bwriadu cymryd yr adeilad drws nesaf a'i uno gyda'n hadeilad presennol i greu lleoliad sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

"Bydd hyn yn caniatáu i ni gynnal mwy o ddigwyddiadau a diddanu mwy o bobl, i barhau i hyrwyddo diwylliant Cymru a'r iaith yn ei holl ffurfiau.

"Gyda chartref mwy, byddwn yn gallu cyrraedd mwy o bobl ar draws Caerdydd, ar draws Cymru, a thu hwnt."

'Pwysigrwydd hanesyddol'

Wrth gadarnhau cefnogaeth y cyngor ar gyfer y cynllun, dywedodd yr arweinydd Huw Thomas fod lleoliadau o'r fath yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i arlwy diwylliannol y ddinas.

"Nid yn unig yw'r lleoliadau hyn yn denu ymwelwyr, cynnal swyddi a denu pobl i'r ddinas, mae ganddyn nhw hefyd bwysigrwydd hanesyddol," meddai.

"Bydd y cyngor yn parhau i gefnogi perchnogion Clwb gyda'r cynlluniau i ehangu er mwyn sicrhau ein bod ni'n amddiffyn y sîn gerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby."

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghlwb Ifor Bach ar ddydd Mawrth 5 Chwefror er mwyn trafod y cynlluniau yn fanylach.