Dyn yn euog o lofruddiaeth 'ddychrynllyd a didostur'

  • Cyhoeddwyd
Andrew HamiltonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr erlyniad bod yr ymosodiad ar Andrew Hamilton yn 'ffyrnig'

Mae rheithgor wedi cael dyn 44 oed o Sir Y Fflint yn euog o ladd cymydog mewn ymosodiad y mae'r barnwr wedi ei ddisgrifio yn un "gwirioneddol ddychrynllyd a didostur".

Roedd Christian Francis Williams yn gwadu llofruddio Andrew Hamilton, 42, mewn bloc o fflatiau ar Stryd Fawr Bagillt ac yn mynnu ei fod wedi gorfod amddiffyn ei hun.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes y gwrandawiad dedfrydu ar 4 Chwefror ac mae'r barnwr wedi rhybuddio ei fod yn wynebu cyfnod hir o garchar.

Clywodd y llys bod 95 o anafiadau ar gorff Mr Hamilton, gan gynnwys rhai sylweddol i'r gwddf.

Yn ôl yr erlyniad roedd Williams wedi defnyddio cyllell, potel a sosban yn ystod ymosodiad "ffyrnig" yn fflat Mr Hamilton ar 18 Gorffennaf 2018.

Dywedodd y barnwr mai'r unig ddedfryd bosib yw carchar am oes ond bod angen mwy o wybodeth cefndir cyn pennu isafswm y gosb.

Mae hefyd eisiau mwy o fanylion am gefndir "Mr Hamilton druan" am fod gymaint o bethau negyddol wedi cael eu dweud amdano yn ystod wyth diwrnod o dystiolaeth.

Golygfa 'annymunol'

Roedd Williams, oedd yn arfer gweithio mewn bar ac fel swyddog diogelwch, wedi dod ar draws Mr Hamilton a'i bartner, Zara Cullum, yng nghanol ffrae dros brynu cyffuriau.

Clywodd y llys bod Williams wedi rhoi potel o win iddyn nhw, a'u bod wedi mynd i mewn i'r fflatiau tua'r un pryd ychydig yn ddiweddarach.

Mewn galwad ffôn yn galw'r heddlu i'r adeilad, dywedodd Williams bod Mr Hamilton "wedi mynd yn wallgof" ac ymosod arno.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu, roedd crys y diffynnydd yn "socian" gyda gwaed, ac fe ddywedodd wrth y plismyn bod yr olygfa yn y fflat yn "annymunol".

Honnodd wrth gael ei holi nad oedd yn cofio beth yn union ddigwyddodd na sut y cafodd Mr Hamilton anafiadau mor ddifrifol i'w wddf.

Dywedodd yr erlyniad bod diffyg anafiadau difrifol i'w hun yn tanseilio'r ddadl ei fod wedi gorfod amddiffyn ei hun.