Oedi pellach cyn trafod cais Ffordd osgoi Llanbedr
- Cyhoeddwyd
Bydd oedi pellach cyn y gall Pwyllgor Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri drafod cais cynllunio i adeiladu ffordd osgoi i bentref Llanbedr ger Harlech.
Fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio'r Parc roi caniatâd i'r ffordd osgoi 'nôl ym mis Medi ond ers hynny mae tirfeddiannwr lleol wedi cyflwyno her gyfreithiol.
Roedd y tirfeddiannwr yn dadlau nad oedd Y Parc Cenedlaethol wedi dilyn y drefn gywir wrth asesu effaith y ffordd osgoi ar Ardal Gadwraeth Arbennig.
Penderfynodd swyddogion cynllunio'r Parc beidio amddiffyn yr adolygiad barnwrol, ond yn hytrach ail-asesu'r cais gan ystyried sylwadau'r barnwr.
Mae'r penderfyniad diweddaraf yn bryder mawr i rai o'r trigolion sydd wedi bod yn galw am ffordd osgoi ers dros 50 mlynedd.
Dywedodd Morfydd Lloyd, Clerc Cyngor Cymuned Llanbedr, fod yr oedi yn "siom" a bod nifer o'r trigolion wedi datgan eu siomedigaeth yn barod.
"'Dan ni'n disgwyl y ffordd yma yn Llanbedr ers 1959, ac mi fuo' ni bron a'i chael hi yn 1992, a'i cholli hi, a dyna ydi'r pryder ynde? Mae cael oedi eto efallai yn gyrru'r peth yn bellach o'n cyrraedd ni."
'Ofnadwy yn yr haf'
Mae hi'n "bedlam" yn y pentref yn ystod yr haf, yn ôl Aled Morgan Jones sy'n byw yng Nghwm Nantcol uwchlaw Llanbedr.
"Mae gynnoch chi Mochras, sy'n un o'r meysydd gwyliau mwyaf yn Ewrop, a hefyd mae Cwm Nantcol a Chwm Bychan yn atyniad i bobol ddieithr.
"Mae hi'n ofnadwy yn Llanbedr yn haf, a does yna ddim palmant i bobol gerdded. Mae gwirioneddol angen y ffordd osgoi."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y gallai'r oedi effeithio ar gyflwyno ffordd fynediad i Barth Menter Llanbedr, ac y byddai'r cyngor yn trafod y sefyllfa yn fanwl hefo swyddogion y Parc gan bwyso am benderfyniad cadarn ac amserol.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Parc Cenedlaethol Eryri fod Awdurdod y Parc yn gobeithio ail-gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio ym mis Mawrth neu ym mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd4 Medi 2018