Disgwyl rhagor o eira wedi trafferthion ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl eira, cenllysg ac eirlaw yng ngorllewin Cymru nos Wener yn dilyn diwrnod o drafferthion tywydd.
Mae dau rybudd melyn mewn grym nes fore Sadwrn - un am rew yn ne ddwyrain Cymru a'r llall am eira yn Sir Benfro.
Cafodd rhannau o Gymru eu heffeithio gan eira ddydd Gwener gan arwain at anawsterau teithio a chau ysgolion.
Roedd tua 550 o ysgolion ar draws de Cymru ar gau a bu'n rhaid cau sawl ffordd yn y Cymoedd.
Wedi i'r sefyllfa orfodi i ohirio neu ganslo hediadau o Faes Awyr Caerdydd, roedd rheolwyr yn trefnu i bobl oedd wedi bwriadu dal awyren i Baris am 09:30 deithio o faes awyr gwahanol neu ar drên Eurostar.
Bu'n rhaid cau'r maes awyr am 23:45 nos Iau er mwyn clirio'r llain lanio, a'r cyngor i deithwyr oedd i gadw llygad am y wybodaeth ddiweddaraf ar wefan y maes awyr.
Roedd yn rhaid cau ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf, Castedd-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Phowys, ac roedd yna rybudd bod yr amodau yn anodd ar yr A470 rhwng Aberhonddu a Merthyr.
Dywedodd cwmni Western Power Distribution eu wedi bod yn gweithio i adfer cyflenwadau trydan i dros 250 o gwsmeriaid yn ardaloedd o gwmpas Llanelli, Risga, Casnewydd a Llandrindod.
Mae wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd wedi rhybuddio mynyddwyr i gadw oddi ar lethrau'r Wyddfa a chopaon uchel eraill Eryri tra bod yr amodau eithafol yn parhau.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am rew rhwng 13:00 ddydd Gwener a 11:00 ddydd Sadwrn, sy'n debygol o effeithio ar siroedd Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot, Caerffili, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019