Cŵn yn lleihau'r straen ar fyfyrwyr adeg arholiadau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r cynllun yn fuddiol iawn i fyfyrwyr a chŵn, yn ôl Felicity Wilkins o elusen Achub Milgwn Cymru

Mae myfyrwyr yn un o brifysgolion Cymru'n cael cymorth o le annisgwyl i'w helpu gyda'u harholiadau.

Mewn partneriaeth unigryw, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn defnyddio cŵn i leihau'r straen ar fyfyrwyr adeg eu harholiadau.

Trwy gydol Ionawr, mae'r elusen Achub Milgwn Cymru (AMC) wedi dod â chŵn i gampws Singleton y coleg er mwyn helpu'r myfyrwyr ymlacio rhwng arholiadau.

Mae'r sesiynau Cymorth Astudio hefyd yn helpu rhai o'r cŵn i "ddechrau ymddiried mewn pobl eto", meddai un o wirfoddolwyr yr elusen.

Y sesiynau gyda'r cŵn yw'r mwyaf poblogaidd o holl raglen Cymorth Astudio'r undeb.

Dywedodd Angela Hewitt, un o wirfoddolwyr AMC fod y sesiynau o fudd i'r cŵn yn ogystal a'r myfyrwyr.

"Mae'r myfyrwyr wrth eu boddau 'efo'r berthynas y maen nhw'n fagu 'efo'r cŵn, mae pawb ar eu hennill a dweud y gwir," meddai.

"Mae'r cŵn yn cael maldod, sylw, danteithion diddiwedd a phobl i chwarae 'efo nhw."

Dywedodd James Rampton, myfyriwr trydedd flwyddyn mewn gwleidyddiaeth a hanes bod y sesiwn wedi ei helpu i ymlacio.

"Mae bod o gwmpas anifeiliaid yn ymlacio'r rhan fwyaf o bobl, felly mae'n gyfle da i gael gwared â'r tensiwn o'r corff," meddai.

Yn ôl y myfyriwr trydedd flwyddyn, Jo Gammon: "Mae gen i gi adref dwi'n ei golli, felly mae hwn yn neis am fy mod yn cael gweld anifeiliaid ac mae'n fy ymlacio finnau hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sesiynau hefyd yn helpu myfyrwyr sy'n hiraethu am eu cŵn gartref

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i'r cŵn chwarae a dod i arfer gyda phobl unwaith eto

Dywedodd Felicity Wilkins, sydd hefyd yn gwirfoddoli efo AMC yn eu cartref yn Rhydaman, fod milgwn yn berffaith ar gyfer y math yma o beth.

"Maen nhw'n gŵn tawel, sy'n derbyn popeth ac maen nhw hefyd yn mwynhau'r sesiynau.

"Mae'n adeiladu hyder ynddyn nhw ac yn gadael iddyn nhw ddechrau ymddiried mewn pobl unwaith eto, oherwydd mae rhai o'r cŵn wedi cael amser caled cyn cael eu hail-gartrefu."

Yn ôl swyddog addysg undeb y myfyrwyr, Chloe Hutchinson, mae'r sesiynau wedi bod yn llwyddiant anferthol.

"Dwi'n ei chael hi'n anodd iawn peidio bod yn hapus, a dwi'n goleuo drwyddaf pan dwi'n gweld ci," meddai.

"Hefyd, mae gan lawer o'r myfyrwyr gŵn adref, ac efallai eu bod yn hiraethu amdanyn nhw, yn enwedig o gwmpas amser arholiadau, pan maen nhw dan bwysau ac angen dipyn o gysur cartref."