£35,000 i gerddorion Cymru drwy gronfa lansio Gorwelion

  • Cyhoeddwyd
Gwilym Bowen Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gwilym Bowen Rhys yn cael arian ar gyfer recordio albwm newydd

Bydd cerddorion yng Nghymru yn derbyn £35,000 gan gronfa i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd.

Mae'r Gronfa Lansio yn rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru ac eleni daeth dros 100 o geisiadau i law.

Mae'r artistiaid buddugol yn cynnwys y cerddor gwerin, Gwilym Bowen Rhys, a'r grŵp Mellt sy'n derbyn arian ar gyfer prynu offerynnau ac offer safonol ar gyfer perfformiadau byw.

Dywedodd llefarydd ar ran y cynllun, sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, fod yr arian yn "fodd iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd a'u cerddoriaeth a chynnal gweithgareddau eraill a fydd o gymorth iddyn nhw i wireddu'u potensial".

Rhoddwyd y dasg o ddewis yr ymgeiswyr mwyaf cymwys i ddau banel a oedd yn cynnwys 20 o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth.

Ers ei sefydlu yn 2014, mae Gorwelion a'r Gronfa Lansio wedi dyfarnu arian i 150 o artistiaid, o fwy na 60 o drefi, ar draws Cymru.

Eleni, cafodd y 28 artist llwyddiannus nawdd i'w helpu gydag amrywiaeth o fentrau - o logi lle ymarfer i weithio gyda chynhyrchwyr profiadol a recordio'n broffesiynol.

'Gwahaniaeth gwirioneddol'

Wrth ymateb dywedodd y canwr gyfansoddwr Gwilym Bowen Rhys: "Mae'n fraint gen i dderbyn cefnogaeth ariannol. Mae'n hwb gwerthfawr i gerddorion Cymreig sy'n ceisio lledaenu eu gwaith adref a thramor.

"Byddaf yn defnyddio'r pres i greu ffilm gerddoriaeth a ffilm ddogfen fer am fy albym newydd fydd allan mis Mai".

Dywedodd Rheolwr Prosiect Gorwelion, Bethan Elfyn: "Rydym wedi gweld cerddoriaeth o Gymru yn mynd drwy gyfnod hynod o gynhyrchiol a phroffidiol yn y 12 mis diwethaf felly mae'n dda gweld y Gronfa Lansio yn parhau i ddarparu arian y mae mawr ei angen ar gyfer y criw newydd cyffrous o artistiaid sy'n dod drwodd.

"Mae'r grantiau hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn darparu arian ar adeg holl-bwysig i artistiaid newydd, un ai i recordio neu i hyrwyddo deunydd newydd.

"Fe welwch o'r rhestr artistiaid mor gyffrous yw'r ystod o genres cerddorol a'r syniadau creadigol yng Nghymru ar hyn o bryd, yn amrywio o'r rhai sydd reit ar gychwyn eu taith i'r rhai sy'n cymryd y cam nesaf ac yn gwthio'u hunain ychydig yn bellach."

Bydd rhai o'r artistiaid llwyddiannus yn cael cynnal sesiwn ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, gan ddechrau ddydd Llun.

Yr artistiaid buddugol

  • Aleighcia Scott, Caerdydd - Fideo cerddoriaeth swyddogol a marchnata digidol ar gyfer albwm cyntaf.

  • Accu, Maesycrugiau, Sir Gaerfyrddin - Gitâr drydan, pedalau a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer yr albwm nesaf.

  • Jessy Allen, Caerdydd - Recordio EP cyntaf 6-trac.

  • Bandicoot, Sgeti, Abertawe - Recordio sengl gyntaf yn y Gymraeg.

  • Gwilym Bowen Rhys, Bethel, Caernarfon - Recordio albwm newydd a ffilmio.

  • Chembo, Wrecsam - Gwneud copïau meistr o recordiadau newydd a fideo cerddoriaeth.

  • Chrles, Biwmares, Ynys Môn - Ysgrifennu caneuon a recordio.

  • CHROMA, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf - Recordio albwm cyntaf.

  • GRAVVES, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint - Fideo cerddoriaeth a sesiwn tynnu lluniau.

  • EADYTH, Merthyr Tudful - Offer recordio.

  • Darren Eedens & The Slim Pickins, Caerdydd - Recordio albwm newydd.

  • Ennio the Little Brother, Shotton, Sir y Fflint - Taith o gwmpas y Deyrnas Unedig gyda'r band o Gymru, Campfire Social ac offer recordio.

  • Eve Goodman, y Felinheli, Gwynedd - Ysgrifennu caneuon a hyfforddiant lleisiol pellach.

  • HANA2K, Sili, Bro Morgannwg - Gliniadur newydd ar gyfer ysgrifennu a recordio demos, sesiynau recordio, cymysgu a gwneud copïau meistr a fideos YouTube.

  • Rebecca Hurn, Porthcawl - Recordio deunydd newydd ar gyfer 3ydd EP, cynhyrchu CD a hyrwyddwr radio.

  • I SEE RIVERS, Dinbych-y-pysgod - Amser stiwdio i recordio albwm cyntaf.

  • Kidsmoke, Wrecsam - Cymysgu albwm cyntaf a gwneud copi meistr.

  • Los Blancos, Sir Gaerfyrddin - Recordio albwm a chysylltiadau cyhoeddus.

  • Marged, Caerdydd - Ysgrifennu caneuon a chynhyrchu albwm cyntaf.

  • Mellt, Aberystwyth - Offerynnau ac offer safonol ar gyfer perfformiadau byw.

  • Moletrap, Llanfair-ym-Muallt - Cwblhau albwm cyntaf.

  • No Good Boyo, Caerdydd - Recordio a rhyddhau albwm newydd, ffotograffiaeth a fideo.

  • Jack Perrett, Casnewydd - Recordio deunydd, fideo cerddoriaeth a ffotograffiaeth newydd a chysylltiadau cyhoeddus.

  • The Pitchforks, Rhondda Cynon Taf - Recordio dwy sengl newydd, video cerddoriaeth a thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig.

  • Christian Punter, Glyn Rhedynnog, y Rhondda - Prosiect EP newydd yn defnyddio storïau sy'n deillio o'r gymuned leol.

  • Silent Forum, Caerdydd - Ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm sydd i ymddangos yn fuan.

  • Daniel Soley, Caerdydd - Gwefan a dosbarthu cerddoriaeth.

  • VOYA, Caerdydd - Offer safonol ar gyfer perfformio'n fyw.