Aelodau Seneddol yn galw ar stadia i gynyddu cyflogau
- Cyhoeddwyd
Mae 30 o Aelodau Seneddol wedi ysgrifennu at bennaeth Undeb Rygbi Cymru (URC) yn galw ar Stadiwm Principality i gael gwared â "tal tlodi".
Dangosodd adroddiad gan Citizens UK fod dau o bob pump sy'n gweithio mewn stadia chwaraeon - fel glanhawyr, arlwywyr neu stiwardiaid - yn cael eu talu yn llai na'r cyflog byw, gan gynnwys tua 200 yn Stadiwm Principality.
Cafodd y mater ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun gan Jo Stevens AS, sydd yn ceisio annog cyrff a thimau chwaraeon i wneud mwy i fynd i'r afael â chyflogau isel yn eu sector.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae pob un aelod o staff parhaol grŵp URC yn derbyn, o leiaf, y cyflog byw."
Yn ôl un gweithiwr ifanc, derbyniodd ef £5.90 yr awr wrth weithio yn y stadiwm y llynedd, gan mai pobl dros 25 yn unig sy'n gymwys ar gyfer y cyflog byw cenedlaethol o £8.73.
Dywedodd Ms Stevens: "Rydw i a 30 aelod arall wedi 'sgrifennu at brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn gofyn am gyfarfod i allu trafod sut gallai Stadiwm Principality fod yn gyflogwr cyflog byw achrededig.
"Mae'r Undeb yn talu ffi o £5,300 i chwaraewyr bob gêm... ond ni allai'r gemau hyn ddigwydd yn Stadiwm Principality heb y gweithwyr.
"Byddai rhaid i lanhawr yn y stadiwm ar £7.50 yr awr weithio am bedwar mis a hanner er mwyn ennill yr un swm, felly dydi hi ddim yn radical i ddweud y dylai pob swydd yng Nghymru dalu cyflog digon uchel i allu byw arno."
'Ddim yn cael fy ngwerthfawrogi'
Dywedodd un gweithiwr cytundeb gyda'r stadiwm: "Roeddwn i'n rhan o'r tîm o gannoedd o weithwyr lletygarwch a glanhawyr a gyfrannodd at wneud digwyddiadau fel cyngerdd Ed Sheeran a Chyfres yr Hydref yn llwyddiannus.
"Cyfrannodd hynny at ennill bron i £100m i Undeb Rygbi Cymru, ond dydw i ddim yn teimlo fy mod i'n cael fy ngwerthfawrogi wrth i mi agor fy nghyflog.
"Pan mae cyflogwr yn talu'r isafswm cyflog, yr hyn maen nhw yn ei ddweud yw 'y bydden nhw'n hoffi talu llai os yn bosib, ond dyw'r gyfraith ddim yn galluogi i ni wneud hynny'."
Ychwanegodd: "Mae hi'n amser i Stadiwm Principality achredu fel cyflogwr cyflog byw. Mae hi'n amser i ni gael gwared â thâl tlodi."
Digwyddiadau gwasgaredig
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae pob un aelod o staff parhaol grŵp URC yn derbyn, o leiaf, y cyflog byw, gan gynnwys stiwardiaid, staff diogelwch a staff yn ein hadrannau lletygarwch.
"Oherwydd natur wasgaredig digwyddiadau Stadiwm Principality, rydyn ni'n cynnal rhwng 5-7 gêm rygbi rhyngwladol bob blwyddyn ac mae pob digwyddiad mawr arall yn cael eu cynnal gan berchnogion trydydd parti - rydyn ni yn cyflogi rhai gweithwyr contract ar rai o'r adegau prysuraf.
"Dydyn ni ddim eisiau trio rhoi gorchmynion i'r contractwyr hyn, sydd yn darparu rhywfaint o staff glanhau ac arlwyo, ynglŷn â'r termau y maen nhw yn eu cynnig i'w staff eu hunain."