Wrecsam yn dewis Bryan Hughes fel rheolwr
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Bryan Hughes hefyd chwarae i Birmingham City, Derby County, Burton Albion a Grimsby Town
Mae CPD Wrecsam wedi dewis eu cyn-chwaraewr Bryan Hughes i olynu Graham Barrow fel rheolwr y clwb.
Mae Hughes, sy'n 42 oed ac a ddechreuodd ei yrfa ar y Cae Ras ond a chwaraeodd hefyd i Birmingham City a Derby County ymhlith eraill, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner gyda Wrecsam.
Ymddiswyddodd Barrow deufis yn unig ar ôl cymryd yr awenau gan ei gyn-bennaeth Sam Ricketts.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Mae Bryan yn hyfforddwr penigamp ac mae ganddo gysylltiad cryf gyda'r clwb.
"Mae ei benodiad yn dangos ein bwriad i ddychwelyd i'r model a'n gwelodd yn gwneud gwelliannau ar y cae a bod yn gystadleuol yn y gynghrair."
Mae Hughes yn dechrau ei swydd gyda Wrecsam yn bumed yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, pedwar pwynt y tu ôl i Leyton Orient ar y brig a gyda 15 gêm yn weddill.