Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Dagenham & Redbridge

  • Cyhoeddwyd
Bryan HughesFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Buddugoliaeth i Bryan Hughes yn ei gêm gyntaf wrth y llyw

Roedd yna fuddugoliaeth i Bryan Hughes yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Wrecsam yn erbyn Dagenham & Redbridge.

Ar ôl hanner cyntaf di-sgor, yr eilydd Stuart Bevan sgoriodd unig gôl y gêm gydag 20 munud yn weddill.

Liam Gordon ddaeth agosach i Dagenham & Redbridge yn gynnar yn yr ail hanner, ond Wrecsam orffennodd yn gryfach.

Yn dilyn y fuddugoliaeth mae Wrecsam yn symud i'r trydydd safle.

Dywedodd Bryan Hughes: "Mae'n bosib y byddwn wedi gwneud pethau'n haws ond fe wnaeth y chwaraewyr yr hyn nes i ofyn, gan ddangos undod."