Ywain Gwynedd yn camu'n ôl o berfformio ar lwyfan

  • Cyhoeddwyd
Yws GwyneddFfynhonnell y llun, Yws Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Band Yws Gwynedd o'r chwith i'r dde: Ifan Sion Davies, Ywain Gwynedd, Rich Roberts a Emyr Prys Davies

Mae cerddor poblogaidd yn dweud ei fod yn "hollol gyffyrddus" ynglŷn â'r posibilrwydd o beidio â pherfformio eto ar lwyfan.

Mewn cyfweliad ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, dywedodd Ywain Gwynedd ei fod bellach yn "cael yr un wefr" o ryddhau cerddoriaeth grwpiau ac artistiaid newydd trwy ei label ei hun, Recordiau Côsh.

"'Aru fi ddim neud ryw announcement mawr bo' fi ddim yn gigio 'im mwy," meddai prif leisydd y grŵp, Yws Gwynedd, "ond 'da ni heb 'di gigio ers blynyddoedd a does na'm plania i neud hynna."

Gan egluro pam ei fod yn awyddus i barhau i gyfrannu i'r maes, dywedodd bod yna gysylltiad pwysig "rhwng pobol ifanc yn mwynhau [cerddoriaeth Gymraeg] a'r ffordd maen nhw'n tyfu fyny wedyn i fyw eu bywydau yn Gymraeg".

Daeth y cerddor o Lanffestiniog i amlygwydd yn wreiddiol gyda'r grŵp Frizbee, a ddaeth i ben yn 2008.

Erbyn 2014 roedd wedi sefydlu Yws Gwynedd a rhyddhau'r albym Codi / \ Cysgu, sy'n cynnwys y gân boblogaidd Sebona Fi.

Ffynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Yws Gwynedd a'i fand wobrau'r Record Hir Orau, Fideo Gorau, Cân Orau a Band Gorau Gwobrau Selar y llynedd

Codi / \ Cysgu oedd Albym y Flwyddyn yng Ngwobrau Selar y flwyddyn honno. Fe gafodd eu hail albym, Anrheoli, yr un wobr yn 2018 - un o blith pedair o wobrau ar noson hynod o lwyddiannus i'r grŵp.

"Ma' pobol yn dal yn gofyn 'tha fi neud gigs wedyn 'dwi'n goro deud 'tha nhw," meddai am y pendefyniad i ganolbwyntio ar redeg Recordiau Côsh - y label a sefydlwyd i ryddhau cerddoriaeth Frizbee.

Ychwanegodd ei fod yn "licio'r" syniad o recordio cerddoriaeth eto "ond 'dwi'm yn gw'bod faint o boint sy' 'na i neud o, os 'da ni ddim yn mynd i berfformio fo'n fyw. Ma' honna'n drafodaeth i ga'l dros beint rwy bryd, 'dwi'n meddwl."

Dywedodd ei fod yn awyddus i barhau i gyfrannu i'r sîn gerddorol Gymraeg, a'i fod yn bwysig gwneud hynny "oherwydd bod yna ddim nawdd".

Ffynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym oedd band neu artist newydd gorau Gwobrau Selar 2018 ac maen nhw wedi eu henwebu mewn sawl categori eleni

Mae'n dweud bod cerddoriaeth wedi rhoi bywiolaeth iddo am "o leia 10 o'r 20 mlynedd dwytha", a'i fod yn nabod pobol "sydd 'di talu am eu bywyd coleg efo cerddoriaeth Gymraeg".

Yn sgil hynny, y gobaith nawr yw "trio rhoid yr un un fantais bach yna i bands fatha Gwilym".

Mae artistiaid eraill y label yn cynnwys Fleur de Lys, I Fight Lions, Alys Williams a Rhys Gwynfor.

Recordiau Côsh hefyd sy'n cyhoeddi cerddoriaeth y grŵp o Lanrug, Alffa, wnaeth creu hanes gyda'r gân 'Gwenwyn' - y gân cyfan gwbl Gymraeg i gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify.

Ffynhonnell y llun, Yws Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Yws Gwynedd yn diddanu cannoedd o bobl ifanc ond mae wedi cefnu ar berfformio i hyrwyddo artistiaid eraill

Dywedodd Ywain Gwynedd ei fod yn cael "gwefr anhygoel" o allu gweld yn syth faint o bobl sy'n ffrydio caneuon y label, a bod "dim otsh os na cerddoriaeth chdi ydi o, neu rwbeth ti 'di rhyddhau".

Mae hefyd yn dweud bod amseriad "lwcus" ei benderfyniad i "ailegino" Recordiau Côsh yn cydfynd â sefydlu cwmni Pyst, sy'n cynnig gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo i labeli ac artistiaid Cymru.

Mae'r drefn honno, meddai, yn osgoi sefyllfa lle "ma' chwech o'r artistiaid gora' yng Nghymru yn rhyddhau rwbath r'un diwrnod.

"Mae 'di neud byd o wahaniaeth," meddai. "Ers talwm, o'dd gin ti lot o gwmnïa' recordiau annibynnol... o'ddan ni'm yn siarad efo'n gilydd, o'dd pawb jyst yn lobio darts at y board ac yn gobeithio hitio bullseye."

Mae Ywain Gwynedd hefyd yn gyfrifol am gyfrif Twitter Geiriau Caneuon, dolen allanol, sy'n defnyddio bot cyfrifiadurol i gyhoeddi pytiau o eiriau caneuon Cymraeg.