Gwobrau'r Selar: Yws Gwynedd yn cipio pedair gwobr
- Cyhoeddwyd
![Yws Gwynedd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1AA2/production/_93681860_yg.jpg)
Ifan Sion Davies, Ywain Gwynedd, Rich Roberts ac Emyr Prys Davies - band Yws Gwynedd
Roedd hi'n noson wych i Yws Gwynedd a'i fand nos Sadwrn wrth iddyn nhw gipio pedair gwobr yn noson Gwobrau'r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Daw Yws Gwynedd yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ac eleni fe enillodd y wobr am y Record Hir Orau (Anrheoli a ryddhawyd fis Ebrill), y Fideo Gorau ('Drwy Dy Lygid Di'), y Gân Orau ('Drwy Dy Lygid Di') a Band Gorau.
Nid dyma'r tro cyntaf i Yws gael llwyddiant yn Gwobrau'r Selar. Yn y gorffennol mae e wedi ennill categori Artist Unigol gorau deirgwaith ynghyd â nifer o wobrau eraill yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae Yws Gwynedd wastad wedi pwysleisio mai prosiect y band cyfan yw'r diweddaraf ac roedd yr aelodau i gyd yn Aberystwyth nos Sadwrn i ymuno yn y llwyddiant.
![Gwilym](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BC77/production/_100074284_dwqr2h-waaibq3u-1.jpg)
Roedd Gwilym yn perfformio ac yn un o'r enillwyr nos Sadwrn
Alys Williams oedd yn fuddugol yn y categori artist unigol gorau ac fe enillwyd y wobr am y band neu artist newydd gorau gan Gwilym - y grŵp o Fôn a Gwynedd.
Un o'r grwpiau a oedd ar restr fer y wobr am y band neu'r artist newydd gorau - Pasta Hull - a enillodd y wobr am y Gwaith Celf Gorau am glawr eu halbwm cyntaf Achw Met.
Y grŵp ifanc Cadno oedd yn dathlu am gipio'r Record Fer Orau am eu EP cyntaf o'r un enw â'r grŵp.
Maes B enillodd deitl y Digwyddiad Byw Gorau unwaith eto eleni, gyda Clwb Ifor Bach yn derbyn gwobr Hyrwyddwr Annibynnol Gorau.
Yn y categorïau eraill ar y noson, cipiodd Osian Williams o Candelas a Siddi y wobr am yr Offerynnwr Gorau am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae Osian hefyd yn chwarae ym mand Alys Williams.
Y comedïwr, a chyflwynydd Radio Cymru, Tudur Owen ddaeth i'r brig ym mhleidlais y Cyflwynydd Gorau eleni.
![Heather Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/58DB/production/_100074722_60a3d062-65fe-44ee-9b8c-35925dbd6a14.jpg)
Heather Jones, enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig, yn perfformio yn Yr Hen Goleg nos Wener
Ym mis Ionawr fe gyhoeddodd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar mai Heather Jones oedd enillydd y wobr cyfraniad arbennig.
Nos Wener bu Heather Jones yn perfformio yn Yr Hen Goleg yn Aberystwyth ac fe dderbyniodd y wobr cyfraniad arbennig gan Owain Schiavone, golygydd cylchgrawn Y Selar.
Hefyd yn perfformio nos Wener bu Alys Williams a'i chyfeilydd Osian Williams.
![Serol Serol](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D31F/production/_100074045_serol.jpg)
Serol Serol - un o'r grwpiau a fu yn perfformio yn seremoni Gwobrau Selar
Ymhlith y rhai oedd yn perfformio nos Sadwrn roedd Yr Eira, Band Pres Llareggub, Omaloma, Cadno, Adwaith, Mr Phormula, Pasta Hull, Gwilym, Yr Oria a Serol Serol.
'Brwdfrydedd Yws yn esiampl'
"Mae Gwobrau'r Selar wedi bod yn noson ardderchog eto eleni, gyda dros 1000 o bobl yn dod yma i Aberystwyth i ddathlu y sin gerddoriaeth gyfoes wych sydd gennym ar hyn o bryd yn y Gymraeg" meddai trefnydd Gwobrau'r Selar, Owain Schiavone.
"Pleidlais boblogaidd ydy Gwobrau'r Selar, a does dim amheuaeth mai Yws Gwynedd oedd artist cerddorol mwyaf poblogaidd 2017.
"Mae brwdfrydedd a gwaith caled Yws yn esiampl i unrhyw gerddor ifanc, ac mae'n llawn haeddu ei lwyddiant.
Mae'n braf hefyd gweld nifer o fandiau ifanc yn cael eu gwobrwyo eleni - gobeithio bydd hyn yn rhoi hwb i Gwilym, Cadno a Pasta Hull, ynghyd â'r artistiaid ifanc eraill oedd ar y rhestrau byr, ac y byddwn ni'n gweld llawer mwy ganddyn nhw."
![line break](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/66239000/gif/_66239292_line2.gif)
Enillwyr llawn Gwobrau'r Selar:
Cân Orau: Drwy Dy Lygid Di - Yws Gwynedd
Digwyddiad Byw Gorau: Maes B
Gwaith Celf Gorau: Achw Met - Pasta Hull
Band Neu Artist Newydd Gorau: Gwilym
Hyrwyddwr Annibynnol Gorau: Clwb Ifor Bach
Record Fer Orau: Cadno - Cadno
Offerynnwr Gorau: Osian Williams
Record Hir Orau: Anrheoli - Yws Gwynedd
Cyflwynydd Gorau: Tudur Owen
Fideo Cerddoriaeth Gorau: Drwy Dy Lygid Di - Yws Gwynedd
Artist Unigol Gorau: Alys Williams
Band Gorau: Yws Gwynedd
Gwobr Cyfraniad Arbennig: Heather Jones
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017