Cynnig o ddiffyg hyder yn arweinydd Cyngor Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Pentref LlesiantFfynhonnell y llun, Carmarthenshire council
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o'r cynllun ar gyfer pentref llesiant Llanelli

Mae arweinydd Cyngor Sir Gâr yn wynebu cynnig o ddiffyg hyder yn dilyn beirniadaeth ffyrnig o'r ffordd y deliodd gydag agweddau o'r gwaith i ddatblygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe a phentref llesiant Llanelli.

Mae arweinydd grŵp Llafur y cyngor, Rob James, yn dweud bod yr arweinydd Emlyn Dole wedi rhwystro ymgais ganddo a chynghorwyr eraill i graffu ar y cynlluniau.

Dywedodd hefyd bod pryderon am adolygiad mewnol o fewn y cyngor.

Mae'r Cynghorydd Dole wedi gwrthod cyhuddiadau'r Cynghorydd James gan ddweud eu bod yn "ddi-sail".

'Dirmyg at y broses graffu'

Mae pentref llesiant Llanelli yn rhan o gynllun ehangach i ddatblygu economi'r rhanbarth drwy gyfrwng Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Fe dderbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio gan y cyngor, ond mae disgwyl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU adolygu manylion y prosiect maes o law.

Mae'r cynllun £200m yn cynnwys adeiladu cyfleusterau hamdden, iechyd ac ymchwil ar yr arfordir ger Llanelli.

'Cyhuddiadau di-sail'

Mewn llythyr at arweinydd y cyngor mae'r Cynghorydd James yn dweud bod y Cynghorydd Dole wedi "dangos dirmyg at y broses graffu" ar ôl "eithrio'r cyhoedd a chynghorwyr meinciau cefn" o nifer o gyfarfodydd yn ymwneud a'r Fargen Ddinesig, y pentref llesiant yn Llanelli, a chynllun Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Mae hefyd yn mynegi pryder hefyd am strwythur adolygiad mewnol yn y cyngor ynglŷn â rôl Sterling Health, a fu'n bartner masnachol ar un adeg cyn iddyn nhw adael y prosiect yn Llanelli.

Mewn ymateb i'r feirniadaeth dywedodd y Cynghorydd Dole bod y Cynghorydd James yn "ceisio tanseilio hyder yn y cynllun ar gyfer y pentref llesiant trwy ei sylwadau a'i gyhuddiadau di-sail".

"Nid yw hyn yn ymddygiad a ddisgwylir gan arweinydd yr wrthblaid," meddai.