Carcharu menyw am dwyllo cyfaill bregus cyn iddi farw
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 54 oed o Rondda Cynon Taf wedi cael ei dedfrydu i 15 mis o garchar am gael bron i £12,000 trwy dwyll gan gyfaill oedrannus cyn ei marwolaeth.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod Kay Smith wedi trin Merle Morgan - chwaer y cyn-bencampwr byd dartiau, y diweddar Leighton Rees - fel "ffynhonnell hawdd o arian" ar ôl cael hawl i drin ei chyfrif banc.
Ers i'r llys ei chael yn euog o 12 o gyhuddiadau o dwyll, mae Smith wedi cyfaddef bod ganddi broblem gamblo.
Mae teulu Mrs Morgan wedi beirniadu Banc Barclays am fethu â "gwneud eu gwaith yn iawn" i atal y twyll. Mae'r banc wedi cael cais am ymateb.
Roedd Mrs Morgan a'r diffynnydd yn byw ym mhentref Cilfynydd, ger Pontypridd ac yn ffrindiau am 15 mlynedd ar ôl cwrdd yn y clwb rygbi lleol.
Fe roddwyd yr hawl i Smith drin cyfrif banc Barclays wedi i Mrs Morgan golli ei gŵr a chael problemau iechyd.
Taliadau hapchwarae 'bron bob dydd'
Yn ôl yr erlyniad, cafodd £11,767.84 ei ddwyn yn y 12 mis - rhwng Gorffennaf 2015 a Gorffennaf 2016 - cyn i Mrs Morgan gael strôc a arweiniodd at ei marwolaeth, yn 79 oed, yn Awst 2017.
Yn ystod yr achos, roedd Smith yn mynnu ei bod ond wedi codi arian ar gais Mrs Morgan, a bod rhywfaint ohono wedi ei wario ar welliannau i'w chartref.
Ond roedd cyfrif banc y diffynnydd ei hun yn amlygu taliadau "bron bob dydd" i wefannau hapchwarae amrywiol.
Fe ymddangosodd Smith drwy gyswllt fideo, gan wylo gydol y gwrandawiad.
Wrth ei dedfrydu, dywedodd y Barnwr Richard Twomlow mai "gamblo a chwant" oedd wrth wraidd y twyll.
Dywedodd bod Mrs Morgan "yn fenyw oedrannus, fregus ac yn ymddiried ynddoch chi fel cyfaill agos i olafu am ei chyfrif banc.
"Fe aethoch chi ati i godi symiau mawr - £2000 pan roedd [Mrs Morgan] yn yr ysbyty... Mae'r rheithgor, yn gywir, yn gwrthod eich celwyddau."
'Gormod o demtasiwn'
Dywedodd merch Mrs Morgan, Kimberly Jones: "Mae'n anodd credu bod rhywun yn gallu bod mor ddideimlad."
Mae'r diffynnydd, meddai, yn "berson ffiaidd" a ildiodd i "chwant pur" gan beri gofid mawr.
"Dyma oedd cynilion oes fy mam ac roedd y temtasiwn yn ormod i Kay Smith," meddai. "Roedd ganddi broblem gamblo ac roedd yr arian yn rhy hudolus."
Mae'r teulu, meddai, yn credu bod mwy na £12,000 wedi mynd ar goll yn y cyfnod dan sylw.
Dywedodd hefyd bod hyd y ddedfryd wedi eu siomi, "ond bydd yn rhaid i Kay Smith ddod o'r carchar a wynebu pobl Cilfynydd sydd bellach yn gwybod beth wnaeth hi".
Ychwanegodd Ms Jones: "Rydym yn credu na fydden ni yma heddi pe tai Banc Barclays wedi gwneud eu gwaith yn iawn.
"Fe wnaethon nhw anwybyddu'r ffaith bod Kay Smith, oedd hefyd yn gwsmer Barclays, â record o ddyled ac yn gamblo bron yn ddyddiol.
"A oedd hi'n berson addas i gael mynediad i gyfrif banc gweddw oedrannus, anabl? Mae'n ymddangos na wnaethon nhw edrych i hynny.
"Mae Barclays yn dweud eu bod yn monitro cyfrifon i nodi gweithredu annisgwyl... i atal twyll. Pan roedd arian yn llifo o gyfrif ein mam, mae'n ymddangos eu bod wedi gwneud dim."
Mae BBC Cymru wedi gofyn wrth Fanc Barclays am ymateb.