Y ffan 18 oed gafodd greu fideo newydd Mei Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Er nad yw Lucy Jenkins o'r Bont-faen ond yn 18 oed, mae hi'n barod wedi cael y cyfle i wireddu breuddwyd nifer o artistiaid, ac wedi creu fideo cerddoriaeth. Hi sydd tu ôl i fideo sengl newydd y canwr Mei Gwynedd, sydd wedi ei animeiddio i gyd, a hynny ar ôl denu sylw Mei ei hun gyda'i gwaith celf.
Mae Lucy wrth ei bodd yn animeiddio ac arlunio, ac yn mwynhau cyfuno'i chariad tuag at gelf a cherddoriaeth Gymraeg gyda phortreadau cywrain o rai o artistiaid mwyaf y Sin Roc Gymraeg heddiw.
Bu'n siarad â Cymru Fyw am y broses o greu fideo i un o'i harwyr cerddorol, a'r hyn sydd yn ei hysbrydoli yn ei gwaith celf.

Y Mei Gwynedd 2D yn y fideo i Tafla'r Dis
Sut ddigwyddodd hyn i gyd?
'Nath y fideo ddigwydd ar ôl i fi benderfynu mynd 'nôl at animeiddio ar ôl stopo am ddwy flynedd. O'n i mo'yn dechrau trwy ymarfer lip synchs achos o'n i heb 'neud hwnna yn iawn ers blynyddoedd, ac o'n i mo'yn dysgu fy hun sut i 'neud e'n dda. O'dd e'n 'neud sens i fi edrych at ganeuon am y sain ac ymarfer animeiddio canu.
Fi'n nabod Mei ers yr haf, ac yn ffan mawr o'i gerddoriaeth e, so nes i glip 20 eiliad o Tafla'r Dis. O'n i'n poeni byddai Mei a phobl eraill yn mynd i feddwl bod e'n weird, achos dyw e ddim yn rhywbeth mae lot o bobl yn 'neud, ond ar y llaw arall, o'n i'n meddwl galle fe troi mas yn dda, a bydd Mei yn meddwl bod e'n syniad cŵl.
O'dd e ddim yn gwbod bod fi'n 'neud e tan i fi roi'r clip 20 eiliad ar Twitter ac Instagram, a drwy lwc, odd e'n rili impressed. 'Nath e ofyn os o'n i mo'yn 'neud fersiwn llawn, ac o'n i'n caru'r syniad ac yn rili awyddus i ddechrau. 'Nath e byth rhoi fi dan bwysau though. Fi odd yr unig un yn 'neud hwnna i fi'n hunan!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sut beth oedd y broses?
'Nath y fideo gymryd tua 11 wythnos i 'neud. Fi'n rili caru ca'l rhywbeth i weithio arno fe, felly mae'n galed i fi drio cadw fy hun bant o brosiect unwaith fi 'di dechrau!
Y rhan anoddaf o'dd animeiddio fe'n rhoi'r sbectol haul ymlaen yn ystod y bennill gynta'. Mae dwylo'n anodd i arlunio beth bynnag, heb sôn am orfod 'neud e 25 o weithiau ar ôl ond bod back in the game ers pythefnos!
O'dd creu gwyneb y pyped - fi 'di enwi fe'n Mei Bach! - yn anodd hefyd achos o'dd angen i fi fodelu fe nid yn unig o Mei go iawn, ond hefyd o'r fersiwn cartŵn 2D o'n i wedi bod yn animeiddio. 'Nath y pyped cymryd wythnos i greu gydag armature (sgerbwd pyped) aluminiwm tu fewn iddo fe.

Mei Bach yn barod am ei 'close-up'...
Yn emosiynol, y peth anoddaf o'dd un rhan anodd o'r fideo lle odd angen i fi aros lan tan 01:30am pob nos i'w gadw on schedule. O'n i'n teimlo fel o'n i byth yn mynd i symud heibio fe, ond yr unig opsiwn o'dd dyfalbarhau.
O'dd Mei yn gefnogol iawn ac yn gwerthfawrogi'r holl waith a 'nath hwnna helpu fi lot yn feddyliol.
Ers pryd wyt ti wedi bod animeiddio?
Fi 'di bod yn animeiddio ers o'n i'n tua 8 oed. 'Nath Dad ddangos fi sut i ddefnyddio video camera'r teulu i greu animeiddiadau stop motion. Dyna'r flwyddyn nes i benderfynu bod fi am fod yn animeiddwraig pan o'n i'n hŷn.
Ges i fwced o plasticine y Nadolig yna, a nes i modelau bach mas ohono fe a defnyddio nhw i greu animeiddiadau. Y Nadolig wedyn, ges i feddalwedd animeiddio i blant a chamera i blygo mewn i'r cyfrifiadur. Odd e'n rili hawdd i ddefnyddio ac odd rhai special effects syml arno fe hefyd. A'r Nadolig wedyn nes i ddechrau creu armatures ar gyfer cymeriadau plasticine fi.
Tua dyna'r adeg nes i ddechrau animeiddio'n 2D hefyd. Nes i wylio rhai o'r animeiddiadau yna'n ddiweddar, ac o'dd e'n eitha tebyg i'r fideo fi newydd 'neud i fod yn onest! Dyw steil celf fi braidd heb newid.

Lucy'n cyflwyno rhai o'i darluniau o Mei Gwynedd i'r dyn ei hun!
O'n i'n arfer hoffi 'neud cartŵns gyda cwpwl o ffrindiau fi o'r ysgol. O'n ni gyd yn dod lan gyda'r stori gyda'n gilydd a'r bechgyn yn lleisio fe, a wedyn fi'n animeiddio fe. Ond nes i stopo pan 'nath license fi ar y meddalwedd redeg mas ac odd e'n ddrud i adnewyddu, tan mynd 'nôl ato fe diwedd blwyddyn d'wethaf.
Pa fath o bethau wyt ti'n mwynhau eu harlunio?
Mae gwaith celf fi gyd yn dangos cariad tuag at bobl fi'n 'nabod a/neu'n edmygu, a fi'n hoffi trio dangos sut mae sain yn 'neud i ni deimlo mewn ffordd gweledol. Fel arfer, fi'n 'neud portreadau o chwaraewyr hoci iâ, a ges i arddangosfa o rheina llynedd.
Ond dros yr haf, ar ôl bod i ddigwyddiadau fel Tafwyl a'r Eisteddfod, 'nath cerddoriaeth Gymraeg bachu fi mewn ffordd gryfach na mae wedi o'r blaen.

Mae Lucy yn ffan o'r band Candelas ac yn mwynhau eu harlunio
Mae'r mwyafrif o bortreadau realistig fi'n 'neud o gerddorion yn cal eu hysbrydoli gan chwilfrydedd fi dros natur unigryw y wyneb a phrydferthwch enaid y person mwy na'r gerddoriaeth. Mae rhai ohonyn nhw am hynna a'r gerddoriaeth yn hafal a wedyn y lluniau mwy stylised am dynnu teimlad y gerddoriaeth mas a mynegi fe'n weledol.
O'dd y fideo yn ffordd o ddangos Mei a'r gerddoriaeth yn weledol, ac yn symud hefyd yn lle gorfod cyfleu symudiad mewn llun sy'n wirioneddol llonydd.
A beth am y dyfodol?
Dwi'n 'neud cwrs sylfaen celf yn Cardiff Arts Academy ar hyn o bryd. Dwi'n bwriadu dod yn animeiddwraig go iawn, felly mae hyn wedi bod yn ymarfer da.
Y freuddwyd yw i gal cartŵn fy hun ar S4C rhyw ddydd. Mae cwpwl o syniadau gyda fi'n barod!

Portreadau anhygoel Lucy o'r cantorion Gwilym Bowen Rhys ac Yws Gwynedd
Hefyd o ddiddordeb: