'Catalog o wallau' yng nghytundeb Pinewood â'r llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Pinewood
Disgrifiad o’r llun,

Stiwdio Pinewood Cymru yng Ngwynllŵg

Mae "catalog o wallau" mewn cytundeb llywodraeth gyda chwmni ffilmiau Pinewood yn dangos bod angen adolygiad o allu gweision sifil i lunio cytundebau â'r sector preifat, meddai pwyllgor.

Mae ACau sy'n goruchwylio gwariant arian cyhoeddus yn hynod feirniadol o'r ffordd y mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gytundebau â Pinewood i hybu'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Arwyddodd Llywodraeth Cymru gytundeb "nad oedd ganddo fanylion [amdano], yn anwybyddu gwrthdaro buddiannau posibl, ac wedi prynu adeilad gyda tho sy'n gollwng heb gynnal arolwg strwythurol", meddai adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried yr adroddiad ac yn ymateb maes o law.

'Cyngor anghywir, anghyflawn ac ansawdd gwael'

Symudodd Pinewood i Gymru yn 2015, ar ôl i Lywodraeth Cymru brynu safle yng Ngwynllŵg.

Roedd disgwyl i brydles wreiddiol Pinewood bara 15 mlynedd, gyda'r ddwy flynedd gyntaf yn ddi-dâl.

Ond wedi iddyn nhw ddechrau talu rhent o dros £500,000 y flwyddyn, fe ddechreuodd y cwmni wneud colled.

Roedd ACau wedi codi pryderon ynghylch "cyngor anghywir, anghyflawn ac ansawdd gwael a ddarperir i weinidogion Cymru ar sawl achlysur", yn ôl Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Mynegodd ACau bryderon hefyd nad oedd swyddogion yn sylweddoli y byddai'n rhaid talu TAW ar nawdd Llywodraeth Cymru o Pinewood.

Roedd y cytundeb yn golygu y byddai'r llywodraeth yn talu £483,000 y flwyddyn i Pinewood farchnata a hyrwyddo'r stiwdio yng Nghymru.

Ond roedd cost bellach o £87,600 y flwyddyn, gan olygu y byddai Pinewood yn derbyn £2.63m dros bum mlynedd.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud: "Rydym yn bryderus iawn ynghylch y ffaith y cafodd TAW ei hepgor o'r cytundeb nawdd gwreiddiol, gan fod hyn yn bwrw amheuaeth ar gadernid y gwaith diwydrwydd dyladwy, yn ogystal â methiant i gael cyngor arbenigol ar oblygiadau TAW."

Roedd pryder hefyd mai dim ond £18m o'r £90m ddisgwyliedig fyddai'n cael ei adennill o fuddsoddiad £30m Llywodraeth Cymru yn y sector ffilm a theledu.

Dywedodd Mr Ramsay wrth BBC Cymru bod "adolygiad o'r gallu... o fewn y gwasanaeth sifil" i ddod i'r fath gytundeb.

"A yw'r bobl hynny sydd wedi cael eu recriwtio yn cael y wybodaeth, y sgiliau priodol sydd gennych i wneud y contractau hynny â'r sector preifat.

"Yn yr achos hwn, Pinewood oedd hi, roedd yn ymwneud â'r diwydiant ffilm. Gallai fod yn unrhyw ardal arall o fywyd Cymreig.

"Ond mae thema gyffredin yn rhedeg trwy hyn oll; mae angen adolygiad priodol arnom o'r cyfyngiadau capasiti o fewn Llywodraeth Cymru."

Methiant arall

Y llynedd, daeth i'r amlwg fod mwy na £5m o arian cyhoeddus wedi ei golli wrth gefnogi cwmni dur yn Abertawe a aeth i'r wal.

Derbyniodd Kancoat £3.4m gan Lywodraeth Cymru, er bod adolygiad yn rhybuddio bod y cynllun busnes yn wan.

Aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ac mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd ildio'r brydles ar yr adeilad yn costio £2m ychwanegol.

Yn 2016, dywedodd uwch was sifil fod y panel buddsoddi a argymhellodd y gefnogaeth wedi gwneud y penderfyniad anghywir.