Wal fôr yn lle Wylfa?
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol gorsaf niwclear Wylfa Newydd yn y fantol gyda'r cwmni oedd i fod ei adeiladu'n ail feddwl os yw'r prosiect yn dal dŵr yn ariannol.
Bydd hyn yn gadael bwlch aruthrol yn yr ynni fydd yn bosib ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddol yn y dyfodol, yn ogystal â gadael bwlch gwaith yn Sir Fôn a thu hwnt.
Ond mae criw o bobl wedi bod yn gwneud ymchwil am gynlluniau i adeiladu wal fôr enfawr rhwng Llandudno a'r Parlwr Du. Byddai'r morglawdd hwn nid yn unig yn medru cynhyrchu ynni adnewyddol yn gyson am dros ganrif, ondbyddai hefyd yn amddiffyn y tir rhag y peryg o lefelau môr uwch oherwydd gwresogi byd eang.
Henry Dixon yw cadeirydd Ynni Llanw Gogledd Cymru (NWTE), cwmni sydd wedi'i ffurfio ers pedair blynedd i ddatblygu a sgopio'r syniad yn bellach gyda'r nod o ymchwilio os yw'n syniad ymarferol, ac mae wedi bod yn trafod y cynllun gyda Cymru Fyw.
"Mae NWTE a'i bartneriaid wedi bod yn gwneud ymchwil ar y sialensiau peirianyddol, amgylcheddol ac economegol sydd ynghlwm â'r prosiect ac er gwaetha'r ffaith ein bod ni ond yn medru gwneud gwaith eithaf cyfyngedig ar hyn o bryd, mae'n dechrau dod yn amlwg fod gan y syniad gwir botensial.
"Mae'r cynllun yn un enfawr, ond yn y bon, cynllun hydro yw ef, fydd yn defnyddio technegau a thechnoleg sydd eisoes mewn bodolaeth, wedi'i brofi a'i ddefnyddio droeon mewn cynlluniau hydro dros y byd.
"O ran yr economeg, ni fyddai'r cynllun yn medru cystadlu o ran cost a'r mathau rhataf o ynni sy'n cael eu cynhyrchu, ond mantais cynllun fel hwn yw bod yna sicrwydd cynhyrchu dwywaith y dydd oherwydd y llanw a'r trai, ac mae'r sicrwydd cyflenwad hwn yn mynd i fod yn fwy o ffactor yn y dyfodol pan fydd hi'n amser cymryd y gorsafoedd bŵer fossil traddodiadol offline.
Amddiffyn rhag llifogydd
"Mantais economaidd arall y prosiect yw'r gwaith fydd yn cael ei greu wrth ei adeiladu ond hefyd mae mantais bellach ac ychwanegol, gan fydd y morglawdd gorffenedig yn cynnig lefel o amddiffyn ychwanegol i'r trefi ar yr arfordir petai lefel y môr yn codi yn y dyfodol o ganlyniad i wresogi byd eang.
"Mae nifer, mae'n siŵr am dynnu sylw i'r ffaith na chafodd cynllun Lagŵn Abertawe ei gymeradwyo gan Llywodraeth Prydain y llynedd, a hynny'n bennaf ar sail cost.
"Ond mae'n bwysig cofio fod pob prosiect lagŵn yn wahanol. Mantais fawr ein prosiect ni yn y gogledd yw y byddai hi'n bosib i ni gynhyrchu wyth gwaith fwy o ynni na chynllun Abertawe, gyda wal sydd ond tair gwaith yn hirach.
Tua hanner cost gorsaf niwclear
"Ry' ni'n amcangyfrif ar hyn o bryd y byddai'n costio tua £7 biliwn i adeiladu'r morglawdd a'i gael yn barod i gynhyrchu ynni. Cymharwch hyn gyda'r amcangyfrif ar gyfer gorsafoedd niwclear Wylfa newydd a Hinckley o £15 biliwn ac £20 biliwn.
"Yn fras, byddwch chi'n medru adeiladu dau forglawdd fel hyn, un yn y gogledd ac un yn y de am yr un gost ag un orsaf niwclear, a bydd y ddau'n cynhyrchu gymaint o ynni ag un orsaf niwclear.
"Ond lle mae'r cynllun gwirioneddol yn ennill yn economaidd yw hyd ei fywyd. Mae disgwyl i'r morglawdd fod yn gynhyrchiol am 125 o flynyddoedd, gyda'r twrbeini â bywyd o tua 40 mlynedd.
Ynni rhad ar ôl 30 mlynedd
"Yn ôl ein ffigurau, byddai'r cynllun wedi ad-dalu ei gostau ar ôl 30 mlynedd ac felly fyddai unrhyw ynni fydd yn cael ei gynhyrchu ar ôl hynny am ddim i bob pwrpas.
"Mae cost ynni adnewyddol ar hyn o bryd yn uwch na'r ffyrdd mwy traddodiadol o gynhyrchu ynni: Glo a nwy, yn bennaf. Ond fel dywedais i, mae gan y cynllun hwn y capasiti i gynhyrchu maint sylweddol o ynni, yn gyson ac yn ddibynadwy pob dydd. Mae'r gallu i gynhyrchu maint sylfaenol o ynni'n gyson yn bwysig ac yn ffurfio sylfaen ynni dibynadwy fydd wedyn yn medru atgyfnerthu'r mathau eraill o ynni adnewyddol sydd yn ddibynnol ar faint o wynt neu faint o haul sydd.
Oes yna anfanteision?
"Mae rhai sydd wedi siarad â ni gydag ambell i ofid am effaith amgylcheddol y prosiect, ac wrth gwrs, mae angen gwneud astudiaeth fanwl o hynny cyn dod i unrhyw benderfyniad. Mae eraill yn ansicr o'r achos economaidd... digon teg efallai. Ond does dim modd i ni benderfynu tan i ni gael astudiaeth ymarferoldeb lawn i wir asesu'r sefyllfa... a dyma'r broblem fwyaf sydd gennym ni ar hyn o bryd.
"Ein gobaith yw y bydd Llywodraeth San Steffan yn tyfu i fod yn fwy hyblyg eu hagwedd tuag at brosiectau fel hyn, a gwneud penderfyniad i ddechrau ymchwilio a chyllido astudiaethau manwl ynglŷn â beth sy'n bosib.
"Heb hynny, bydd hi'n anodd mynd â'r peth ym mhellach, ac o ganlyniad, mae gennym ni sefyllfa chicken and egg go iawn ar hyn o bryd..."