Hanner trydan Cymru'n dod o ynni adnewyddadwy
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth bron i hanner y trydan gafodd ei ddefnyddio yng Nghymru yn 2017 o ynni adnewyddadwy, yn ôl adroddiad newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed bod 70% o drydan yn dod o ynni adnewyddadwy ar gyfer 2030.
Dywedodd llefarydd bod y ffigyrau'n dangos fod y wlad yn "camu'n bwyllog at y targed uchelgeisiol o ynni glân erbyn 2030".
Y llynedd, yn ôl ffigyrau'r adroddiad daeth 48% o'r trydan gafodd ei ddefnyddio yng Nghymru o ynni adnewyddadwy, o'i gymharu â 43% yn 2016.
Mae adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017 yn dangos bod y wlad wedi cynhyrchu mwy na dwywaith y trydan a ddefnyddiodd, gan wneud Cymru'n allforiwr trydan i Loegr, Iwerddon a'r rhwydwaith Ewropeaidd ehangach.
'Camau anferth ymlaen'
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod:
22% o'r trydan gafodd ei gynhyrchu yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, i fyny o 18% yn 2016;
Dros 67,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gyda chapasiti rhyngddynt o bron 3,700 megawat;
84% o'r capasiti hwnnw'n drydan adnewyddadwy, 16% yn wres adnewyddadwy;
Pŵer y gwynt yn cynhyrchu tua 66% o'r trydan adnewyddadwy yng Nghymru.
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Ynni Cymru: "Rwy'n hynod falch bod Cymru'n dal i gamu tuag at ein targedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol ac mae'r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd aruthrol a fu ers llynedd.
"Gyda bron hanner y trydan a ddefnyddiwn yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, yn ogystal â bod dros hanner ffordd at gyrraedd ein targed o ran y capasiti trydan adnewyddadwy sydd mewn dwylo lleol, rydyn ni'n gweld hefyd bod y sector yn cymryd camau anferth ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018