Crabb yn beirniadu cyd-Geidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
crabb

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi beirniadu ei gyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi i'r Prif Weinidog Theresa May golli pleidlais arall yn San Steffan.

Y cynnig gerbron oedd fod Tŷ'r Cyffredin yn parhau â hyder yn strategaeth Brexit Mrs May, ond fe drechwyd y cynnig o 303 pleidlais i 258.

Dywedodd Mr Crabb fod Mrs May "yn ceisio gwneud popeth i gadw cefnogaeth ei haelodau, ond mae'n glir bellach nad ydyn nhw'n mynd i gefnogi unrhyw gytundeb realistig".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts fod y bleidlais yn dangos fod San Steffan "wedi torri'n sylfaenol".

'Ddim yn addas i'w bwrpas'

Fe wnaeth cefnogwyr Brexit o fewn y blaid Geidwadol ymatal eu pleidlais gan ddweud bod y cynnig yn awgrymu y byddai Brexit heb gytundeb ddim yn opsiwn.

Gwadu hynny wnaeth gweinidogion, gan ddweud y byddai colli'r bleidlais yn gwneud gwaith Mrs May wrth drafod gyda'r Undeb Ewropeaidd yn fwy anodd.

Dywedodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro: "Mae'r prif weinidog wedi cael ei hatgoffa o bwy sydd ddim yn ffrindiau iddi hi."

Wrth alw eto am refferendwm arall ar yr UE, dywedodd Ms Saville Roberts: "Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn chwalu... dyw'r senedd bellach ddim yn addas i'w bwrpas.

"Mae'r anhrefn yma heb os yn niweidio'n heconomi ac yn gwaethygu'r problemau yn ein cymdeithas.

"Ni all San Steffan barhau i ohirio hyn ymhellach."

'Cywilydd cenedlaethol'

Dywedodd AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty fod Brexit bellach "nid yn unig yn llanast gwleidyddol, ond yn gywilydd cenedlaethol".

"Mae amser yn mynd yn brin i gynnal pleidlais go iawn ar gytundeb Brexit [Mrs May] ac os nad oes mwyafrif o'i blaid yn Nhŷ'r Cyffredin, yna yr unig ffordd gyfrifol ymlaen yw i roi'r gair olaf i'r cyhoedd gyda Phleidlais y Bobl," meddai.

Ond mynnodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies fod llawer o "gemau gwleidyddol yn digwydd fan hyn".

"Bydd cytundeb y Prif Weinidog yn llwyddo oherwydd, yn y pen draw, bydd yr ERG [grŵp o ASau Ceidwadol sydd o blaid Brexit 'caled'] yn troi tuag at ei chefnogi.

"Dydyn nhw ddim am risgio refferendwm arall."