Bale, Beckham a Bodedern

  • Cyhoeddwyd

O baentio llinellau ar gae pêl-droed Bodedern i deithio'r byd yn goruchwylio gemau mawr a chyfarfod enwogion fel Pelé a Beckham. Wrth iddo gamu yn ôl o rhai o'i ddyletswyddau, Trefor Lloyd Hughes sy'n sôn am ei gyfnod tu ôl i'r llenni yn gweinyddu'r gêm brydferth.

Ffynhonnell y llun, Trefor Lloyd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Byd y Bale - Trefor Lloyd Hughes a Gareth Bale

Pan oedd llygaid y byd pêl-droed ar rownd derfynol cwpan Europa yn 2014, roedd gan un gŵr o Ynys Môn sedd dda yn Stadiwm Juventus - ond doedd o methu mwynhau'r gêm.

Yn lle gwylio sgiliau'r chwaraewyr roedd rhaid iddo gadw golwg ar y dorf a gwneud yn siŵr bod un o brif gemau'r calendr bêl-droed yn mynd yn ei blaen yn ddidrafferth.

Ac fel cynrychiolydd UEFA yn Turin, yn Yr Eidal, fe allai Trefor Lloyd Hughes fod wedi canslo'r digwyddiadau os nad oedd wedi ei fodloni gyda'r trefniadau.

"Ti'n eistedd yn y stand ac yn sbïo i'r dde i'r chwith a checio bod bob dim yn iawn. Dydi rhywun ddim yn gweld y gêm bron iawn," meddai.

"Ti'n edrych i wneud yn siŵr nad oes 'na neb yn eistedd ar y grisiau a bod y ffordd i fynd allan o'r gwaelod i'r top yn glir.

"Ac wedyn os ti'n mynd i rywle fel Porto lle mae'r flares yma yn dod allan dwi'n gorfod tynnu llun a'i yrru fo i UEFA neu sgwennu amdano."

Ffynhonnell y llun, Trefor Lloyd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Gall llun fel hon o dân gwyllt y cefnogwyr arwain at ddirwy i'r clwb

Yn y gêm honno yn Turin - pan wnaeth Sevilla guro Benfica - roedd y tân gwyllt rhwng y chwaraewyr tu hwnt i olwg y camerâu.

Pum munud cyn hanner amser roedd Trefor Lloyd Hughes wedi mynd i'r twnnel fel rhan o'i ddyletswyddau.

"Arglwydd, pan ddaeth y chwaraewyr oddi ar y cae ro' ni yng nghanol pobl yn cega a gweiddi - goalkeeper un tîm yn ffraeo efo rhywun arall.

"Nes i ddim reportio nhw - aeth bob dim yn ddistaw yn diwedd. Felly oeddwn i'n wneud, os alli di siarad efo nhw a bod nhw'n gwrando arnat ti mae o'n iawn."

Ffynhonnell y llun, Trefor Lloyd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Cwpan y Champions League a thlysau eraill

Bu'n gwneud y gwaith ers 2011, yn teithio dramor ddwywaith y mis yn ystod cyfnodau prysur.

Rhaid i gynrychiolydd UEFA fod yno ddiwrnod cyn y gêm er mwyn cynnal cyfarfodydd rhwng pawb - yn cynnwys y clwb, y timau, y gwasanaethau brys a thîm y dyfarnwr.

Y brif ddyletswydd ydi gwneud yn siŵr bod y digwyddiad yn ddiogel ond mae hefyd yn gyfrifol am bob math o fanylion eraill fel sicrhau bod y cae wedi ei farcio'n iawn a bod crysau lliwiau gwahanol gan y ddau dîm.

Ffynhonnell y llun, TREFOR LLOYD HUGHES

"Os oedd unrhywbeth o'i le, a finnau'n meddwl y gall o greu problem, fe allwn i ddweud 'dydi'r gêm ddim yn mynd ymlaen' a dweud wrth UEFA. Hyd yn oed os ydi'r heddlu yn hapus, all y delegate UEFA ddweud 'na'.

"Mae pobol yn dweud 'o, ti'n cael hi'n braf ti'n mynd i fan hyn a fan arall'. Tydi o ddim yn braf - mae o'n job galed."

Ond mae o hefyd yn ymwybodol iawn ei fod wedi cael llond stôr o brofiadau yn sgîl ei rôl gyda UEFA, y gymdeithas sy'n gweinyddu'r gêm yn Ewrop, ac fel llywydd Undeb Pêl-droed Cymru.

Roedd hynny'n golygu dadlau dros fuddiannau Cymru yng nghyfarfodydd FIFA a cheisio denu digwyddiadau fel rownd derfynol y Super Cup a'r Champions League i Gaerdydd.

"Bobl bach dwi wedi dod ar draws pobl - dwi wedi siarad efo Pelé am dipyn go lew mewn cyfarfod FIFA yn Ne Affrica, dwi wedi siarad efo Eusebio, David Beckham, Rummenigge. Maradona hefyd - ond ddim am hir. Yr unig un dwi wedi methu hyd yma ydi Ronaldo, mae o wedi gallu fy osgoi i!"

Ffynhonnell y llun, Trefor Lloyd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Efallai nad ydy o wedi cyfarfod Ronaldo eto, ond fe gafodd Trefor Lloyd Hughes olygfa wych ohono'n derbyn ei fedal Super Cup

Mae'n fyd gwahanol iawn i'r un lle dechreuodd Trefor Lloyd Hughes weinyddu'r gêm.

Ar ôl gorffen chwarae i Fodedern, fe arhosodd efo'r clwb ar Ynys Môn i wneud pob math o ddyletswyddau fel ysgrifennydd, trysorydd, marcio cae, gosod rhwydi a llenwi'r twb efo dŵr poeth erbyn diwedd gêm.

Dechreuodd weinyddu'r gêm i Gynghrair Ynys Môn ddiwedd yr 1970au, cyn symud ymlaen i lefel Gogledd Cymru.

Bu'n aelod o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ers 30 mlynedd, a chafodd ei benodi'n llywydd y gymdeithas yn 2012.

Ffynhonnell y llun, Trefor Lloyd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Trefor Lloyd Hughes efo Chris Coleman a Kit Symonds - cyn reolwr a chyn is-reolwr Cymru

Oherwydd rhesymau iechyd, mae wedi rhoi'r gorau i'w rôl fel cynrychiolydd UEFA, ond mae mynd i rai cyfarfodydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fel is-lywydd am oes.

Ac fel un sydd wedi dadlau achos pêl-droed ieuenctid dros y degawdau, does dim syndod mai cri debyg sydd ganddo i'r hyn sy'n digwydd oddi ar y cae.

"Faswn i'n licio gweld mwy o bobl ieuengach yn dod i mewn - does neb yn dod drwodd, ac os alla i wneud o all unrhywun neud o.

"Ond os maen nhw'n gwneud mae'n rhaid iddyn nhw neud o er mwyn pêl-droed, dim er mwyn nhw eu hunain.

"Pan ti'n dechrau gweinyddu cynghreiriau bychan ti byth yn meddwl bod o am fynd a chdi i le aeth o a fi, nes i erioed feddwl hynny a dwi erioed wedi pwsio fy hun i fod arno fo chwaith - dim ond wedi bod yn fi'n hun a dim crafu efo neb."

Hefyd o ddiddordeb: