Ateb y Galw: Yr actor Gruffudd Glyn
- Cyhoeddwyd

Yr actor Gruffudd Glyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Dyfan Dwyfor yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Tydw i ddim yn dda am gofio pethau. Ond un o'n hoff atgofion cynhara' i sy'n aros yn y cof ydi gwylio Ian Rush yn sgorio yn erbyn yr Almaen yn y Stadiwm Cenedlaethol. Dwi'n sicr iddo ddathlu tra'n edrych i fyw fy llygaid.

Ian Rush yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn yr Almaen ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, yn 1991. Mae'n siŵr fod y Gruff ifanc wrth ei fodd yn dathlu buddugoliaeth y cochion 1-0!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Lightning oddi ar Gladiators.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Chwarae rygbi.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Heddiw, yn ffilmio drama fer am farwolaeth.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dylyfu gên pan mae rhywun yn siarad gyda mi. Hyd yn oed os bod diddordeb mawr gen i gyda be' sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Copa Pen y Fan.

Fel arfer, mae pobl yn tyrru o amgylch yr arwydd ar gopa Pen y Fan i gael hunlun...
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Bordeaux. Cymru 2-1 Slofacia. Euro 2016.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Cyffrous, siaradus, rhwystredig.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Robin Hood: Prince of Thieves. Y ffilm gynta' i mi weld yn y sinema.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
T Glynne Davies, fy nhaid. Dwi wrth fy modd yn clywed straeon amdano, ond yn anffodus does dim atgof gen i ohono gan iddo farw pan o'n i'n dair mlwydd oed.

Enillodd T Glynne Davies y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951, a bu'n cyflwyno'r rhaglen radio Bore Da ddechrau'r 70au
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi newydd ddechrau band o'r enw Melin Melyn, dolen allanol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael parti enfawr gyda fy ffrindiau a theulu.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Heddiw fy hoff gan yw Lisa Says gan Velvet Underground. Achos ma hi'n gân dda iawn.

O archif Ateb y Galw:

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Dwi'n ddiweddar wedi troi yn pescatarian ac yn dal i ddod i arfer â hynny. Camembert i ddechrau. Lobster fel prif gwrs. Cheescake llawn toffi a siocled i bwdin, gyda hufen iâ.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Donald Trump. Ac ymddiswyddo yn syth.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Sion Alun Davies
Hefyd o ddiddordeb: