Lansio ymgyrch torfol i Siop Griffiths, Penygroes

  • Cyhoeddwyd
Siop Griffiths, PenygroesFfynhonnell y llun, Dan Chamberlain

Mae cymuned yn Nyffryn Nantlle wedi dechrau ymgyrch ariannu torfol ar gyfer menter adfywio.

Mae ymgyrchwyr wedi sicrhau grantiau ar gyfer rhan o'r cynllun i addasu Siop Griffiths, Penygroes, i fod yn gaffi, llety a chanolfan ddigidol.

Bydd y gymuned yn ceisio codi £32,000 pellach drwy apêl ar y we.

Eisoes mae'r gymuned yno wedi codi £50,000 i brynu'r adeilad, ac wedi sicrhau £123,000 pellach mewn grantiau.

'Canolfan hanesyddol, eiconig'

Ar hyn o bryd mae'r adeilad yn cael ei addasu er mwyn agor caffi yno.

Mae angen arweiniad ychwanegol ar y fenter i brynu offer a sicrhau bod y caffi yn medru agor.

Y bwriad yw gwneud ceisiadau am grantiau pellach er mwyn datblygu'r llety a'r ganolfan ddigidol ar gyfer pobl ifanc.

Y targed presennol yw codi'r arian erbyn diwedd mis Tachwedd.

Mae Siop Griffiths yn cael ei disgrifio gan arweinwyr y prosiect fel "canolfan hanesyddol, eiconig yng nghanol y pentref".