Pro14: Caeredin 34-17 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Er ymdrech ddewr gan y Dreigiau, llwyddodd Caeredin i'w trechu gyda phwynt bonws ym Murrayfield nos Wener.
Rhoddodd James Johnstone y tîm cartref ar y blaen ddwywaith, ond y ddau dro llwyddodd canolwr y Dreigiau, Tyler Morgan i unioni'r sgôr gyda dau gais ei hun.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda gôl gosb gan Josh Lewis cyn i Jaco van der Walt ei gwneud yn gyfartal unwaith eto.
Ond erbyn diwedd y gêm roedd Caeredin yn gryfach, gyda Magnus Bradbury yn sgorio un cais Duhan Van der Merwe yn ychwanegu dau.