Y Gynghrair Genedlaethol: Havant & Waterlooville 2-3 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Shaun PearsonFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Shaun Pearson sgoriodd gôl gyntaf Wrecsam

Mae Wrecsam wedi codi o'r drydedd i'r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl sgorio tair gôl yn Havant & Waterlooville yn yr ail gêm gyda Brian Hughes wrth y llyw.

Ar ôl ildio gôl i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf, sgoriodd Shaun Pearson gôl gyntaf Wrecsam ychydig funudau wedi'r egwyl - pedwaredd gôl y capten y tymor hwn.

Daeth dwy gôl arall gan Akil Wright a James Jenkins, cyn i Havant & Waterlooville daro'n ôl gyda gôl Alfie Rutherford.

Mae Wrecsam nawr bwynt ar y blaen i Leyton Orient yn y tabl, ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Maidenhead United.