Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad difrifol yn Afonwen
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A541 ger Afonwen
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ynghylch gwrthdrawiad difrifol yn cynnwys tractor a beic modur rhwng Dinbych a'r Wyddgrug.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A541 ger Afonwen tua 15:30 ddydd Sadwrn.
Mae'r llu yn awyddus i siarad â gyrrwr cerbyd du oedd y tu ôl i'r tractor.
Bu'n rhaid cau'r ffordd am rai oriau ac roedd yna apêl i yrwyr gadw draw o'r ardal.
Cafodd y gwasanaeth tân hefyd eu galw mewn ymateb i'r digwyddiad.