Paul Flynn: ASau'n gadael Llafur yn 'amharchus'

  • Cyhoeddwyd
Grŵp AnnibynnolFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Luciana Berger bod y Blaid Lafur wedi troi'n "sefydliadol wrth-Semitaidd"

Roedd hi'n amharchus i saith AS Llafur gyhoeddi eu bod yn gadael y blaid tra bod pobl yn dal i alaru yn dilyn marwolaeth Paul Flynn, yn ôl AS Canol Caerdydd Jo Stevens.

Ddydd Llun fe wnaeth saith AS o etholaethau yn Lloegr gyhoeddi eu bod yn ffurfio'r "Grŵp Annibynnol".

Dywedodd Ms Stevens bod Llafur angen "cael gwared â" phobl gwrth-Semitaidd o'r blaid.

Ond dywedodd bod modd mynd i'r afael â phroblemau "ar y cyd", gan ychwanegu y dylai'r saith sydd wedi gadael y blaid alw isetholiadau.

Bu farw AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, ddydd Sul.

Mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun dywedodd un o'r ASau sydd wedi gadael Llafur, Luciana Berger, bod y blaid wedi troi'n "sefydliadol wrth-Semitaidd".

Disgrifiad o’r llun,

Galwodd Jo Stevens ar Jeremy Corbyn i "ddweud na fydd yn goddef unrhyw wrth-Semitiaeth yn y blaid"

"Ar fore ble rydyn ni yng Nghymru ac fel Plaid Lafur ledled y DU yn galaru yn dilyn marwolaeth Paul Flynn, rwy'n teimlo bod angen i mi ddweud bod y cyhoeddiad y bore 'ma ychydig yn amharchus," meddai Ms Stevens.

"Er mwyn newid a gwella'n plaid - ac mae gennym ni broblemau, gan gynnwys delio gyda gwrth-Semitiaeth - rwy'n credu bod angen i ni wneud hynny ar y cyd."

Ychwanegodd bod angen i'r arweinydd Jeremy Corbyn "ddweud na fydd yn goddef unrhyw wrth-Semitiaeth yn y blaid".

"Gallai hynny wneud pobl gwrth-Semitaidd sylweddoli nad oes lle iddyn nhw yn y blaid am nad ydyn nhw'n rhannu ein gwerthoedd," meddai.

'Amseru anaddas'

Dywedodd gweinidog Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles mai'r Blaid Lafur yw "heb os, y ffordd orau i sicrhau Prydain sy'n deg a chyfiawn".

"Mae'r datblygiad yma'r bore 'ma yw gwneud hynny'n anoddach cyflawni," meddai.

Ychwanegodd AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty bod amseru'r cyhoeddiad yn anaddas, "ar adeg pan mae ein gwlad yn wynebu'r argyfwng mwyaf ers 1940, a phan ry'n ni'n galaru ar ôl colli cyfaill".