'Ansicrwydd Brexit yn effeithio buddsoddiadau yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd
Mae buddsoddiadau mewn busnes yng Nghymru yn cael eu "hoedi a'i dileu" oherwydd ansicrwydd cynyddol ynghylch Brexit, yn ôl Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Dywedodd Ken Skates fod yno gwmni, sydd am barhau yn ddienw, wedi oedi penderfyniad i fuddsoddi yn y gogledd ddwyrain "oherwydd Brexit".
Os yw'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, bydd y cwmni yma yn penderfynu peidio buddsoddi a bydd 250 o swyddi yn cael eu colli, meddai.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o wario mwy ar brosiectau adeiladu ysgolion a ffyrdd er mwyn "sbarduno twf economaidd".
Mae disgwyl i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth.
Roedd Gweinidog yr Economi yn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) sy'n rhybuddio bod rhannau o'r sector cyhoeddus ond wedi gwneud "paratoadau cyfyngedig" ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Yn ôl yr adroddiad, dyw cynghorau yn arbennig heb wario arian ar gynlluniau Brexit oherwydd yr ansicrwydd gwleidyddol.
Dywedodd Mr Skates: "Mae Brexit llai na 40 diwrnod i ffwrdd, ac ar ôl dwy flynedd o ansicrwydd mae penderfyniadau buddsoddi yn cael eu hoedi a'u dileu oherwydd ddiffyg gweithredu ac ansicrwydd Llywodraeth y DU.
"Rydyn ni'n buddsoddi lle mae modd gwneud hynny er mwyn hybu gwydnwch busnes Cymru... ond mae'r ffaith yn parhau y byddai economi Cymru yn wynebu canlyniadau trychinebus o ganlyniad i Brexit heb gytundeb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019