Rhybudd am gynlluniau Brexit di-gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Wales and EU flags

Mae rhannau o'r sector cyhoeddus ond wedi gwneud "paratoadau cyfyngedig" ar gyfer y posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb - yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

Yn ôl yr adroddiad, dyw cynghorau yn arbennig heb wario arian ar gynlluniau Brexit oherwydd yr ansicrwydd gwleidyddol.

Hefyd, mae'r risgiau posib o Brexit heb gytundeb yn cynnwys cyflenwadau bwyd ar gyfer ysbytai ac ysgolion yn cael eu hamharu, ynghyd a'r posibilrwydd o gyflogi gweithwyr o'r undeb Ewropeaidd yn cael eu heffeithio.

Mae SAC wedi dweud nad yw ansicrwydd yn esgus ar gyfer peidio â pharatoi.

'Cynllunio o ddifrif'

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cydnabod tŷ gallai bod amhariad i gyflenwad bwyd ffres o'r cyfandir os bydd Brexit digytundeb yn arwain at oedi mewn porthladdoedd a meysydd awyr.

Mewn adroddiad, dywedodd SAC fod nifer o gyrff cyhoeddus "yn ei gweld hi'n anodd darganfod y capiaist iawn" i gynllunio at Brexit.

Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi creu 198 o swyddi newydd i weithio ar Brexit , ond mewn sawl achos mae'r swyddi rheiny wedi'i llenwi gan staff sydd yno eisoes.

Mae'r sector cyhoeddus yn cynllunio "o ddifrif" ar gyfer Brexit, yn ôl SAC, ond gydag ond ychydig dros bum wythnos nes y dyddiad ymadael- maen nhw'n dweud ei bod hi'n glir bod gan gyrff cyhoeddus "lawer i'w wneud" o hyd.

Mae rhai cyrff y gwasanaeth iechyd yn dweud bod nhw wedi dod o hyd i ffyrdd o symleiddio eu cadwyni cyflenwi ar ôl adolygu'r cynnyrch sy'n dod o'r cyfandir.

Yn ôl canfyddiadau'r adroddiad:

  • Dim ond lleiafrif o gynghorau sydd â chynlluniau clir i ymdopi gyda'r risgiau sydd wedi'i hadnabod.

  • Mae cynlluniau ar gyfer y posibilrwydd o brinder bwyd yn cyflymu, gyda rhai cyrff yn adolygu eu cyflenwadau.

  • Mae'r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn credu fod y problemau gweithlu sy'n gysylltiedig â thrigolion o'r UE yn fwy "tymor canolig a thymor hir" yn hytrach fod 'na risg i staff orfod gadael yn syth.

Dywedodd yr Archwiliwr Cyffredinol, Adrian Compton nad yw hi'n bosib lleihau'r effaith posib o Brexit digytundeb.

Ychwanegodd: "Dwi'n credu mewn rhai rhannau o'r sector cyhoeddus, mae yna dawedogrwydd wedi bod o ran ymrwymo mwy o adnoddau pan mae'r ansicrwydd yn parhau."