Diffyg camerâu cylch cyfyng yn 'amharu ar waith heddlu'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cael trafferth profi achosion o dor-cyfraith oherwydd diffyg camerâu cylch cyfyng, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.
Daw wrth i 10 o gamerâu cylch cyfyng newydd gael eu troi ymlaen yn Aberystwyth yr wythnos hon.
Yn 2015, fe gafodd £2m ei glustnodi i osod camerâu CCTV newydd ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Roedd hynny ar ôl i gomisiynydd cyntaf y llu, Christopher Salmon benderfynu nad oedd achos i gefnogi monitro CCTV cyhoeddus.
Mae'r buddsoddiad yn golygu bod camerâu yn cael eu gosod yn ôl mewn 17 o drefi ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.
'O fudd i'r awdurdodau'
Mae camerâu eisoes wedi gosod yn y trefi sydd agosaf at bencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin.
Yn ymateb i osod y camerâu yn Aberystwyth, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn dweud y bydd mwy o dystiolaeth mewn achosion o dor-cyfraith.
Dywedodd Dafydd Llywelyn: "Mae yna ddigwyddiadau, nid dim ond yn Aberystwyth, ond mewn trefi eraill ar draws Dyfed-Powys lle byddai system cylch cyfyng wedi bod o fudd i'r awdurdodau ac yn benodol i'r heddlu.
"Mae nifer o ddigwyddiadau mawr wedi digwydd ar draws yr ardal, a dwi'n sicr y byddai system cylch cyfyng wedi bod o fudd i'r achosion yma."
'Teimlo lot saffach'
Mae croeso wedi bod i'r cyhoeddiad gan nifer o bobl Aberystwyth, lle mae galwadau wedi bod am gael y camerâu yn ôl ers iddyn nhw gael eu diffodd bum mlynedd yn ôl.
Yn berchennog ar sawl busnes yn Aberystwyth, mae Aled Rees wedi cael trafferthion. Cafodd ffenestr Siop y Pethe ei thorri ddwywaith mewn cyfnod o dair blynedd.
Mae'n gobeithio y bydd y sefyllfa'n "gwella" gyda'r camerâu newydd.
"Fyddai'n teimlo lot saffach yn mynd mas, ac yn mynd mas gyda'r plant," meddai.
"Mae nifer o bethau wedi digwydd, hyn yn oed yn ganol dydd fan hyn. Mae'r heddlu wedi gofyn am ein lluniau CCTV ni, a rhan fwyaf o'r amser dydy'r camera ddim yn pwyntio'r ffordd iawn.
"Gobeithio nawr bydd y camerâu newydd yma yn gwneud gwell gwaith mewn dod o hyd i bobl sy'n cambihafio y tu allan i'r siop yma."
Dywedodd Ceredig Davies, sy'n gynghorydd sir ar gyfer ward Canol Aberystwyth: "Bydd y camerâu yn rhoi hyder i bobl a busnesau Aberystwyth, i wybod bod record o rywbeth sydd wedi digwydd.
"Fe fydd yr heddlu yn gallu cael gafael ar droseddwyr yn fwy cyflym rŵan, ac ymateb yn gynt i ddigwyddiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd14 Awst 2017