Y Gynghrair Genedlaethol: Boreham Wood 0-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Pêl-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi codi i frig y Gynghrair Genedlaethol ar ôl trechu Boreham Wood oddi cartref nos Fawrth.

Aeth y Dreigiau ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, gyda Ben Tollitt yn rhwydo yn dilyn croesiad Jason Oswell.

Ychwanegodd Tollitt, sydd ar fenthyg o Tranmere Rovers, ei ail ar ôl 65 munud i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Bryan Hughes ar frig y gynghrair, un pwynt yn unig ar y blaen i Sollihull Moors.