Cyhuddo prifysgol o 'roi'r ffidil yn y to' gyda'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi lleisio pryder dros gynlluniau Prifysgol Caerdydd fyddai'n gweld Ysgol y Gymraeg yn newid i fod yn adran o fewn ysgol newydd.
Daw'r cynllun newydd mewn ymateb i gyfnod ariannol heriol, gyda 380 o swyddi yn y fantol.
Dywedodd Tony Schiavone o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y brifysgol yn "blaenoriaethu" anghenion addysg "tu hwnt i anghenion y gymuned yng Nghymru".
Mae hefyd wedi cyhuddo'r brifysgol o "roi'r ffidil yn y to" o ran darpariaeth Cymraeg i oedolion.
Yn ôl y brifysgol, fe fyddan nhw'n "gwarchod hunaniaeth" yr ysgol, a'i "galluogi i elwa o fod yn rhan o grŵp ehangach o ddisgyblaethau".
Mae'r brifysgol yn cynnig bod Ysgol y Gymraeg yn newid i fod yn adran o dan Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol.
Petai hyn yn digwydd, fe fyddai'r Gymraeg yn uno â'r Ysgolion Saesneg, Cyfathrebu ag Athroniaeth ac Ieithoedd Modern.
'Israddio'
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y byddai'r newid yn "ergyd" i'r brifysgol ac i'r ymgyrch o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
"Ystyr cyfuno ydy israddio, ac ystyr israddio ydy llai o staff, llai o adnoddau a llai o arian," meddai Mr Schiavone.
"Ein barn ni yw bod hyn y peth anghywir i'w wneud mewn cyfnod lle 'da ni'n edrych am flaengaredd, lle ni'n edrych ar ysgolion a phrifysgolion a choleg addysg bellach i gydweithio i sicrhau bod gennym ni filiwn o siaradwyr [Cymraeg] o fewn chwarter canrif."
Cafodd myfyrwyr wybod rhagor am y cynlluniau mewn cyfarfod ag uwch-swyddogion y brifysgol.
Mae Jacob Morris, Swyddog y Gymraeg gydag Undeb y Myfyrwyr yn poeni y "bydd yr elfen glos na sy'n perthyn i Ysgol y Gymraeg yn diflannu".
"Dim ond heddi yw'r tro cyntaf i fyfyrwyr y brifysgol a'r undeb 'di cael mewnbwn fewn i'r cynlluniau 'ma."
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r brifysgol geisio ymdopi â diffyg ariannol o hyd at £22m.
Mewn datganiad, dywedodd y brifysgol y byddai'r uno yn "galluogi arbedion effeithlonrwydd o ran addysgu".
"Byddwn yn gwarchod hunaniaeth benodol Ysgol y Gymraeg ac yn ei galluogi i elwa ar fod yn rhan o grŵp ehangach."
Ffidil yn y to?
Yn y datganiad, mae'r brifysgol hefyd yn crybwyll eu bod yn ystyried os mai nhw yw'r "sefydliad priodol i ddarparu Cymraeg i Oedolion".
Galwodd Tony Schiavone hyn yn "ddim byd mwy ond rhoi'r ffidil yn y to o ran y Gymraeg".
"Maen nhw'n rhoi blaenoriaeth ac yn ymateb i anghenion addysg tu hwnt i anghenion y gymuned yng Nghymru, a thu hwnt i ddymuniadau datblygu'r Gymraeg."
Ond dywedodd y brifysgol nad oes unrhyw benderfyniad wedi eu gwneud eto, a'u bod nhw'n cydweithio â phartneriaid i wneud yn siŵr bod cyrsiau yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd3 Awst 2015