Y grŵp roc Estrons yn cyhoeddi eu bod yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Estrons
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y band 'nôl yn 2013

Mae'r band roc o Gaerdydd, Estrons, wedi cyhoeddi eu bod yn dod i ben.

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol, dywedodd y grŵp eu bod yn dod â'r cyfnod "anodd ond anhygoel" i ben oherwydd gwahaniaethau creadigol a phersonol.

Roedd disgwyl i Estrons fynd ar daith ar draws y DU ym mis Mawrth ac Ebrill ond mae'r dyddiadau hynny bellach wedi'u canslo.

Ychwanegodd y datganiad fod pob aelod yn gobeithio dychwelyd gyda phrosiectau unigol yn y dyfodol agos.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan ESTRONS

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan ESTRONS

Fe ddechreuodd y band, oedd wedi rhyddhau caneuon Cymraeg a Saesneg, pum mlynedd yn ôl wedi i'r gantores Tali Källström gwrdd â'r gitarydd Rhodri Daniel yn Aberystwyth.

Ymunodd Steffan Pringle ac Adam Thomas â'r band ac aeth yn ei flaen i ddenu sylw'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Yn ogystal â pherfformio yng ngwyliau mwyaf Cymru, mae'r pedwarawd hefyd wedi chwarae yng ngwyliau fel SXSW yn Texas, Gŵyl Latitude a Gŵyl Rhif 6.

Dros y blynyddoedd maen nhw hefyd wedi cefnogi grwpiau fel Slaves a Garbage ar deithiau amrywiol.

'Gadael fel dieithriaid'

Yn y datganiad mae'r grŵp yn egluro nad oedd y prosiect "erioed i fod i barhau mor hir â hyn", ond eu bod nhw'n falch ei fod wedi.

"Wnaethon ni gwrdd fel dieithriaid, daethom yn ffrindiau, yn fwy ac yn llai... a nawr ry'n ni'n gadael fel dieithriaid unwaith eto," meddai'r datganiad.

Mae'r band hefyd yn diolch "i bawb a brynodd neu ddaeth i weld ein cerddoriaeth a'n cefnogi ni mewn unrhyw ffordd".

Ymysg y rhai i ymateb mae Heledd Watkins, prif leisydd HMS Morris, sy'n "diolch am y tiwns" ac yn "croesi bysedd nad hyn yw y diwedd".

Bydd unrhyw un oedd wedi prynu tocyn ar gyfer y daith arfaethedig yn derbyn ad-daliad llawn.