Beirniadu proses taliadau lwfans anabl
- Cyhoeddwyd
Mae dynes sydd yn rhannol ddall yn dweud ei bod wedi gorfod gwerthu ei heiddo er mwyn ymdopi gan iddi orfod aros 17 mis i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod ei lwfans anabl.
Mae Denise Edwards, 53 oed o Wrecsam, yn dweud ei bod ar ei cholled o £480 y mis ar ôl i gynllun Taliadau Annibyniaeth Personol gael ei wrthod iddi.
Ar gyfartaledd, mae'r oedi rhwng dechrau a chaniatáu apêl lwyddiannus wedi mwy na dyblu ers 2014/15.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn parhau yn gyson i wella'r broses.
Fe wnaeth ymchwil gan BBC Cymru ddarganfod bod un yn bob 10 person anabl wnaeth herio penderfyniad ar lwfansau orfod aros mwy na 10 mis am arian.
Dywed ymgyrchwyr fod y broses yn ddiffygiol gyda thua 72% o achosion yn cael eu gwyrdroi ar apêl.
Beth yw Taliadau Annibyniaeth Personol? (TAP)
Mae TAP wedi bod yn raddol disodli'r Lwfans Talaidau Byw Pobl Anabl ers 2013. Mae'n werth hyd at £145.35 yr wythnos.
Y nod yw helpu tuag ag y gost ychwanegol o anabledd neu salwch hir dymor er mwyn cynorthwyo gyda phethau fel gwisgo, coginio prydau a gallu rhywun i symud o le i le.
Dywed rhai pobl sy'n hawlio'r taliad fod asesiadau yn aml yn rhai dadleuol, a'u bod yn cael eu cynnal gan gwmnïau preifat ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae Ms Edwards yn rhannol ddall a tan yn ddiweddar yn defnyddio ci tywys.
Dywedodd iddi golli tua £480 y mis ar ôl penderfyniad i beidio rhoi taliad TAP iddi ym mis Chwefror.
Dywedodd iddi orfod mynd 17 mis cyn iddi ennill ei hapêl.
"Roedd yn rhaid i mi werthu stwff er mwyn byw, pethau fel gemwaith... yn ffodus mi roedd gennyf stwff i werthu.
"Rwy'n hynod o flin oherwydd mae pobl ag anableddau yn cael hi'n ddigon anodd beth bynnag," meddai.
'Sefyllfa warthus'
Dywedodd Miranda Evans, o elusen Anabledd Cymru mae'r sefyllfa a'r oedi yn warthus.
"Mae'n annerbyniol fod pobl yn gorfod aros dros 12 mis i apelio, a hynny'n llwyddiannus," meddai.
"Mae'r rhaid iddo ddigwydd yn gynt yn hytrach na rhoi pobl trwy amser trawmatig pan nad oedd ganddynt y modd o gynnal bywyd annibynnol.
Ond dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod nhw wedi ymroi yn llwyr i sicrhau fod pobl anabl yn cael y cymorth sydd ei angen.
"Mae asesiadau yn gweithio'n dda i'r mwyafrif o bobl, ond mae profiad gwael un person yn un yn ormod, ac rydym wedi ymroi i wella'r broses fel bod pawb yn cael y cymorth maen nhw ei angen.
"O dan taliadau TAP yng Nghymru mae 40% o bobl yn cael mwy o gefnogaeth nag o dan yr hen drefn," meddai'r llefarydd.
"Mae 3.7m o benderfyniadau TAP wedi eu gwneud, o'r rhain mae 10% wedi arwain at apêl, ac mae 5% wedi cael eu gwyrdroi.
"Mae penderfyniadau yn cael eu newid wrth i bobl gynnig mwy o dystiolaeth, ysgrifenedig neu eiriol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019