Newid rheolau cynllunio mastiau i 'wella signal ffôn'
- Cyhoeddwyd
Bydd rheolau cynllunio ynghylch mastiau ffôn yn newid er mwyn ceisio gwella signal ffonau symudol yng Nghymru.
Mae'r newid yn golygu na fydd angen mynd drwy'r broses gynllunio llawn i godi mast hyd at 25 metr o uchder.
15 metr ydy'r uchaf all gael ei godi ar hyn o bryd, ac mae'r newid yn dilyn symudiadau tebyg yn Lloegr a'r Alban.
Mae cwmnïau telegyfathrebu wedi bod yn galw am y newid ers tro.
Y gobaith yw y bydd y newid yn gwella gwasanaethau ffon gan y bydd y mastiau uwch yn gallu gyrru signalau'n bellach.
Fis diwethaf, dywedodd pwyllgor Cynulliad bod perygl y gallai Cymru ddisgyn ymhell y tu ôl i wledydd eraill y DU pan ddaw'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg symudol.
Yn rhan o'r un newidiadau, bydd yn haws i bobl osod mannau pweru ceir trydanol a rhoi paneli solar ar doeau tai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019