Cymru'n 'cael ei gadael ar ôl' oherwydd mastiau ffôn
- Cyhoeddwyd
Mae perygl y gallai Cymru gael ei gadael ar ôl pan fo'r genhedlaeth nesaf o signal ffonau symudol yn cyrraedd, yn ôl pwyllgor o ACau.
Bydd cysylltiad cyflymach â'r rhyngrwyd pan fydd rhwydwaith 5G yn cael ei chyflwyno yn ddiweddarach yn 2019.
Mae Pwyllgor Economi'r Cynulliad yn dweud y dylai hi fod yn haws i adeiladu mastiau tal yng Nghymru, sy'n gyrru'r signal ymhellach.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "Llywodraeth y DU sydd â'r prif bwerau dros wella signal ffonau symudol".
'Ddim yn defnyddio'u pwerau'
Cafodd cyfyngiadau ar uchder mastiau eu llacio yn Lloegr a'r Alban yn 2016, ond ni wnaeth Cymru ddilyn eu hesiampl.
Yng ngweddill Prydain nid yw mastiau o hyd at 25 metr yn gorfod mynd trwy broses gynllunio llawn - 15 metr yw'r uchder cyfatebol yng Nghymru.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru addo dros ddwy flynedd yn ôl i astudio'r dystiolaeth cyn penderfynu os fydden nhw'n newid eu rheolau i gyd-fynd â gweddill Prydain.
Dywedodd adroddiad ym mis Rhagfyr 2017 - gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru - y dylid codi'r uchder i 25 metr.
"Mae gennym ardaloedd sydd â dim signal ar draws Cymru. Mae pobl yn rhwystredig iawn," meddai cadeirydd y pwyllgor, Russell George.
"Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau y gallai ddefnyddio i newid pethau.
"Un o'r rheiny yw newid y drefn gynllunio, ond dydyn nhw dim wedi gwneud hynny."
'Teimlo allan ohoni'
Mae Lisa Roberts, sy'n fam i ddwy o ferched, yn manteisio ar fyw a gweithio o'i chartref yn Llanymawddwy ger Machynlleth.
Ond ers wythnosau bellach mae hi'n teithio 60 milltir y dydd oherwydd bod y cysylltiad lloeren wedi torri a does dim signal ffôn chwaith.
"Ni'n ddibynnol iawn ar ryw fath o gysylltiad i'r we, a pan ni hebddo ni'n teimlo allan ohoni," meddai.
"Dwi'n teimlo falle bo' ni ddim ar level playing field. Byddai sicrhau rhyw fath o signal yn ddechrau.
"Mae'n siomedig clywed bod signal yn cael ei wella mewn rhai ardaloedd, ond eto ddim yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd â dim o gwbl.
"Byddai'n braf cael bod mewn sefyllfa debyg i ardaloedd eraill yng Nghymru, a bod gyda ni rhywbeth yn hytrach na dim."
'Nifer o heriau'
Dywedodd darparwyr ffonau symudol wrth y pwyllgor y dylai mastiau o hyd at 30 metr gael eu caniatáu heb orfod mynd trwy broses gynllunio llawn.
Ychwanegodd y cwmnïau y byddan nhw'n fodlon rhannu mastiau.
Mae 56% o Gymru bellach yn cael eu gwasanaethu gan yr holl ddarparwyr - i fyny o 28% ym mis Mehefin 2017.
Ond yn ôl y pwyllgor dyw hi ddim yn glir os mai cynllun gweithredu gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2017 sy'n gyfrifol am y cynnydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig cydnabod, fel y mae'r adroddiad yn amlygu, mai Llywodraeth y DU sydd â'r prif bwerau dros wella signal ffonau symudol.
"Mae daearyddiaeth Cymru'n cyflwyno nifer o heriau a ry'n ni'n gweithredu yn yr ardaloedd ble mae gennym gyfrifoldeb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017