Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Senedd Ieuenctid
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 60 aelod rhwng 11 a 18 oed

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd am y tro cyntaf yn Siambr y Cynulliad ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn.

Mae'r 60 aelod, sydd rhwng 11 a 18 oed, yn cynrychioli 40 o etholaethau ac 20 o sefydliadau ac elusennau.

Bydd pob aelod yn cael dau funud i annerch y siambr ar unrhyw bwnc o'u dewis nhw.

Bydd pleidlais yn cael ei gynnal yn ddiweddarach lle mae cyfle i aelodau ddewis pa dri phwnc fydd y senedd yn canolbwyntio arnynt yn ystod ei gyfnod cyntaf.

Dywedodd Talulah Thomas o Langollen, yr aelod dros Dde Clwyd, ei bod hi'n bwysig "creu pont rhwng y Senedd a phobl ifanc."

"Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cael y cyfle i ddweud ein barn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Talulah Thomas ei bod hi'n bwysig fod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddweud eu barn

Yn ôl Caleb Rees o Landysul, aelod Ceredigion, mae'n "anrhydedd cael cynrychioli fy ardal a sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed."

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwraig y Cynulliad, fod "hyn yn benllanw misoedd a blynyddoedd o waith".

"Rydym ni'n meddwl y bydd gwrando ar bobl ifanc yn gwella'r penderfyniadau fydd yn digwydd yn y senedd hefyd.

"Rhan o'r hyn rydyn ni'n ei drafod yw sut yn union ydyn ni'n mynd i ddod â'r ddwy senedd ynghyd."

Ychwanegodd: "Mi fydd yna gyfarfodydd ar y cyd ac mae'n bosib y bydd modd i'r Senedd Ieuenctid fwydo eu syniadau i rai o bwyllgorau'r cynulliad. Bydd hyn i gyd yn cael ei drafod gyda nhw yn ystod y sesiwn."