Y cynhyrchydd arloesol Ruth Price wedi marw yn 95 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynhyrchydd teledu arloesol, Ruth Price, wedi marw yn 95 oed.
Yn ystod y 1970au roedd Price wedi rhoi'r cyfle cyntaf i rai o berfformwyr amlycaf Cymru.
Roedd ei rhaglenni teledu yn llwyfan i gantorion a grwpiau a aeth ymlaen i fod yn fyd-enwog.
Rhoddodd waith teledu cynnar i sêr fel Meic Stevens, Max Boyce ac Iris Williams.
Fe enillodd lawer o'r artistiaid a basiodd clyweliad gyda Ruth Price lwyddiant nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd.
Ganwyd ym Mathri yn Sir Benfro ym 1924, ac fe aeth Price i fyd darlledu ar ôl gyrfa lwyddiannus yn dysgu.
Bu'n brifathrawes yn yr ysgol Gymraeg gyntaf ym Mhontarddulais, ac fe ddaeth Ruth i sylw rheolwyr y BBC yn ystod ymgyrch gyhoeddus iawn dros ddyfodol adeilad yr ysgol.
Ym 1961 ymunodd â thîm y BBC ym Mangor, gan ddod yn gynhyrchydd rhaglenni radio i blant.
Roedd ganddi gyfrifoldeb am Awr y Plant ac roedd hi'n gyfrifol am greu'r gyfres cerddoriaeth bop i blant, Clywch, Clywch, ar fore Sadwrn.
Cyfle cyntaf i nifer o gantorion
Trosglwyddodd ei doniau i deledu, gan ymuno â thîm adloniant ysgafn Gymraeg y BBC yng Nghaerdydd ym 1963.
Roedd Max Boyce a Mary Hopkin wedi derbyn eu hymddangosiadau cyntaf ar deledu o ganlyniad i raglenni Ruth Price, gyda'r rhaglen bop a roc Cymraeg cyntaf Disc a Dawn yn esiampl amlwg a llwyddiannus o'i chyfraniad i'r chwyldro yn rhaglenni adloniant Cymraeg.
Bu Disc a Dawn yn cael ei chyflwyno'n rheolaidd gan Huw Jones, y canwr a'r ymgyrchydd a aeth yn ei flaen i fod yn brif weithredwr a chadeirydd S4C.
Wrth roi teyrnged iddi dywedodd Huw Jones: "Roedd Disc a Dawn ar ddiwedd y 60au a dechrau'r 70au wrth galon bwrlwm afieithus y byd pop Cymraeg newydd.
"Roedd yn rhoi llwyfan wythnosol i dalentau canu o bob math ac yn cael ei gwylio ar draws Cymru, ac am gyfnod ar draws y rhwydwaith Brydeinig hefyd, gan redeg am y rhan fwyaf o'r hydref, gaeaf a'r gwanwyn am nifer o flynyddoedd.
"Ruth oedd yr arweinydd a'r bos. Yn gyn-brifathrawes, roedd hi'n gwybod yn iawn sut i gadw trefn, ond hefyd sut oedd diddanu cynulleidfa.
"Hi oedd yn gyfrifol am gynnwys y rhaglen, am ddarganfod talentau newydd a dewis caneuon gorau'r cantorion a grwpiau mwy cyfarwydd.
"Roedd yn agored i syniadau newydd ac yn fodlon mentro, gan ddarganfod doniau cerddorol ar hyd a lled y wlad, gan gyflwyno pobl fel Max Boyce, Meic Stevens, y Tebot Piws ac Iris Williams i gynulleidfa fawr am y tro cyntaf.
"Roedd Disc a Dawn yn cael ei darlledu'n fyw ac roedd yr adrenalin yn uchel, ond roedd Ruth yn feistres ar gadw rheolaeth tra'n cadw'r tempo i fynd. Ond pan fyddai'r darllediad drosodd, roedd hi hefyd wrth ei bodd yng nghanol y criw yn cael clec a chlonc, yn trafod pynciau'r dydd a hanes pawb.
"Roedd blynyddoedd Disc a Dawn yn gyfnod hapus ryfeddol, a osododd seiliau cadarn ar gyfer llawer o'r datblygiadau ym myd adloniant a chanu Cymraeg a ddaeth wedyn. Mae arnom oll ddyled fawr i Ruth Price."
Roedd Price yn gyfrifol am feithrin gyrfa'r canwr gwerin Meic Stevens ac yn ôl y sôn bu'n rhaid iddi ddefnyddio ei phrofiad fel athrawes i gymedroli ei natur annibynadwy a'i arferion lliwgar.
Ar gyfer y rhaglen gerddoriaeth werin, Hob y Deri Dando, roedd Price wedi cyflogi Hogia'r Wyddfa ar ddechrau gyrfa'r triawd.
Roedd hi hefyd wedi rhoi clyweliad ar hap a damwain i'r gantores Iris Williams, a oedd yn ymweld â stiwdios y BBC i roi cefnogaeth i'w ffrind pan ofynnwyd iddi berfformio i'r cynhyrchydd.
Aeth Williams ymlaen i lwyddiant mawr ym Mhrydain ac America, ac roedd hithau a Ruth Price yn ffrindiau gydol oes.