Dymchwel Tŷ Dewi Sant i ddatblygu canol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Public squareFfynhonnell y llun, Rightacres
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y man cyhoeddus newydd yn cysylltu Sgwâr Canolog a Stadiwm Principality

Bydd y gwaith o ddymchwel adeilad chwe llawr, sy'n cynnwys siopau a swyddfeydd, yn dechrau'r wythnos hon er mwyn gwneud lle i sgwâr cyhoeddus yng nghanol Caerdydd.

Wrth i Dŷ Dewi Sant gael ei ddymchwel mae disgwyl i Ffordd Scott fod ar gau am dair wythnos.

Mae'r gwaith yn rhan o ddatblygu ardal y Sgwâr Canolog - lle bydd pencadlys BBC Cymru a'r orsaf fysiau.

Yng nghanol y sgwâr bydd cerflun o Betty Campbell - y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru.

Mae disgwyl i'r cerflun - enillydd pleidlais Merched Mawreddog y BBC - gael ei ddadorchuddio yn 2020.

Wrth siarad yn 2017 dywedodd Phil Bale, arweinydd Cyngor Caerdydd ar y pryd, bod y sgwâr yn rhan allweddol o ddatblygu'r brifddinas ac y byddai'n fodd i gysylltu canol y ddinas â Stadiwm Principality.

Fe adawodd tenantiaid Tŷ Dewi Sant yr adeilad fis Ionawr.

St David's HouseFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae adeilad Tŷ Dewi Sant gyferbyn ag adeiladau newydd y Sgwâr Canolog