Archwiliad Pentref llesiant: Cyngor wedi ymddwyn yn iawn

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant LlanelliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r cynllun greu hyd at 2,000 o swyddi a dod â £467m i'r economi leol

Mae archwiliad annibynnol wedi dod i'r casgliad fod Cyngor Sir Gâr wedi ymddwyn yn iawn wrth gynllunio prosiect Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn Llanelli.

Bydd y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant, sy'n derbyn £40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys adnoddau hamdden, addysg ac iechyd.

Mae'r archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru ac arolygiad cyfreithiol annibynnol wedi dod i'r casgliad fod y cyngor wedi dilyn y broses berthnasol a'i fod wedi gwarchod arian cyhoeddus yn effeithiol.

Mae Arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole wedi croesawu canfyddiad yr archwiliad ac mae'n falch fod yr archwiliad yn dangos fod y prosiect yn "datblygu'n effeithiol."

Mae disgwyl i'r prosiect dderbyn £40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn amodol ar yr achos busnes.

Bydd yn cael £32m pellach gan y cyngor ac mae disgwyl i £128m arall ddod o'r sector preifat.

Fe gafodd yr archwiliad ei alw gan y cyngor er mwyn sicrhau eu bod wedi ymddwyn yn iawn ac wedi asesu'r rigiau'n effeithiol wrth geisio gwarchod arian cyhoeddus.

Ychwanegodd Mr Dole: "Mae'r ddau archwiliad yn glir nad oes unrhyw gam wario, neu unrhyw risg wedi bod i arian cyhoeddus, a bod y prosiect wedi'i reoli'n gywir i gydymffurfio gyda'r cyngor cyfreithiol."