Cynnal isetholiad Gorllewin Casnewydd ym mis Ebrill
- Cyhoeddwyd

Bu Paul Flynn yn cynrychioli'r Blaid Lafur yng Ngorllewin Casnewydd am dros 30 mlynedd
Bydd isetholiad ar gyfer etholaeth Gorllewin Casnewydd yn cael ei gynnal ym mis Ebrill, a hynny yn dilyn marwolaeth Paul Flynn yn 84 oed.
Cafodd Mr Flynn ei ethol am y tro cyntaf yn 1987 ac fe lwyddodd i amddiffyn ei sedd yng Ngorllewin Casnewydd am saith etholiad yn olynol tra'n cynrychioli'r Blaid Lafur.
Roedd yr AS wedi cyhoeddi ei fwriad i gamu lawr fel AS ym mis Hydref 2018 oherwydd ei iechyd.
Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar 4 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018