Gefeillio Aberhonddu â phentref yn Nepal yn swyddogol
- Cyhoeddwyd
Mae tref marchnad Aberhonddu wedi gefeillio gydag ardal yn Nepal - ac mae'n debyg mai dyma'r dre' gyntaf yn y DU i wneud hynny yn swyddogol.
Mae gan Aberhonddu gysylltiadau milwrol â Nepal ers 40 mlynedd ac mae'r dref bellach wedi gefeillio'n swyddogol â phentref Dhampus, sydd ynghanol y wlad.
I nodi'r achlysur cafodd seremoni ei chynnal yn y pentref - roedd cannoedd yn bresennol gan gynnwys aelodau o Gyngor Tref Aberhonddu.
Mae tua 80 o deuluoedd Nepalaidd wedi ymgartrefu yn Aberhonddu.
Fe symudodd Khusiman Gurung o Dhampus i Aberhonddu wyth mlynedd yn ôl i fod yn Uwch-gapten Ghurka ar Fataliwn Cyntaf y Reifflau Gurkhaidd Brenhinol.
"Mae'r gefeillio yn arwyddocaol i ni gan ei fod yn ddigwyddiad hanesyddol mai Dhampus yw'r dre' neu'r pentref cyntaf i efeillio gyda thre' yn y DU," meddai Mr Gurung.
"Mae cymuned Dhampus wrth eu boddau ac yn falch o gael uno gydag Aberhonddu... bydd y dathliad a gawsom yn Dhampus yn cael ei gofio am flynyddoedd lawer."
Cafodd y Gurkhas, yn wreiddiol o fryniau a threfi Nepal, eu gwneud yn ddinasyddion anrhydeddus tref Aberhonddu yn 1985.
Yn 2015 fe ddathlodd y Ghurkas 200 mlynedd o wasanaethu'r Goron ac maent wedi bod yn rhan bwysig o'r Fyddin Brydeinig ers 1947 pan y cawsont eu trosglwyddo o Fyddin Yr India.
Ychwanegodd yr Uwch-gapten: "Mae Aberhonddu yn un o 10 canolfan yn y DU lle mae'r Ghurkas wedi ymgartrefu ac mae cysylltiad cryf rhwng y milwyr a phobl yn y gymuned.
"Mae yna deimlad o gynhesrwydd tuag atynt ac mae Aberhonddu wedi dod yn gartref i lawer o bobl o Nepal."
'Fel dringo Pen-y-fan'
Y gobaith yw y bydd y gefeillio yn hwb i dwristiaeth Aberhonddu ac mae yna obeithion y bydd pobl yn ymweld â phentref Dhampus.
Yn ôl y Cynghorydd David Meredith, a gafodd y syniad am y gefeillio: "Roedd yna ddau reswm dros ddewis Dhampus... roedd e'n un o'r llefydd cyntaf i mi ymweld ag ef a gan fod nifer o'r bobl Nepalaidd sy'n byw yn Aberhonddu yn dod o Dhampus roedd e'n gwneud synnwyr cysylltu'r ddau le."
Ychwanegodd: "Mae'n gwbl ryfeddol - pan ry'ch chi fyny yn Dhampus mae e fel dringo Pen-y-fan - mae'r ddau fan yn debyg er bod llai o bobl yn byw yn Dhampus - rhyw 3,000 sydd yno i gyd."
Dhampus yw'r drydedd dref i efeillio gydag Aberhonddu - y ddwy arall yw Gouesnou yn Llydaw a Saline ym Michigan yn yr Unol Daleithiau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012