Disgwyl clywed dyfodol catrodau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl manylion yn ddiweddarach am strwythur newydd y fyddin ym Mhrydain.
Y bwriad ydi lleihau ar niferoedd y milwyr sydd gan Brydain - ac mae yna le i gredu y bydd hynny'n golygu cael gwared ar rai catrodau a safleoedd milwrol.
Yng Nghymru - mae yna dair catrawd - Y Queen's Dragoon Guard (y Cafalri Cymreig); y Cymry Brenhinol a'r Gwarchodlu Cymreig.
Mae'r Gurkhas hefyd a'u pencadlys yn Aberhonddu.
Ers wythnosau mae cefnogwyr y Cafalri Cymreig wedi bod yn ymgyrchu i geisio sicrhau eu dyfodol gan fod 'na bryder y byddai'n dod i ben.
Ond mae lle i gredu y bydd y Cafalri yn cael eu hachub.
Ond mi allai hynny fod ar draul Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol.
Byddin rhan amser
Ar hyn o bryd, mae 'na 102,000 yn y fyddin.
Y bwriad o fewn wyth mlynedd ydi lleihau hynny i 82,000.
Byddai 20,000 yn llai o aelodau llawn amser yn golygu mwy o bwyslais ar y fyddin rhan amser.
Mae'r Cafalri Cymreig wedi eu lleoli yn Sennelager, Yr Almaen ac yn uned cerbydau strategol.
Mae pencadlys y Gwarchodlu Cymreig yn Hounslow, gorllewin Llundain tra bod Catrawd Gyntaf y Cymry Brenhinol yng Nghaer a'r Ail Fataliwn yn Tidworth yn Sir Wiltshire.
Roedd 'na awgrym bod 'na fwy o fudd o'r math yma o gatrodau yn hytrach na'r Cafalri ond dadl cefnogwyr oedd bod 'na hanes a chysylltiad cryf â Chymru.
Roedden nhw hefyd yn dweud mai dyma'r unig uned cafalri yng Nghymru.
Mae disgwyl cyhoeddiad Gweinidog Amddiffyn Llywodraeth Prydain, Philip Hammond, yn Nhŷ'r Cyffredin toc wedi 12pm.
Bwriad adolygiad Byddin 2020 ydi arbed arian.
Ond mae yna bryder y bydd rhywbeth arall yn cael ei golli wrth i'r ceiniogau gael eu harbed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2012
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd17 Mai 2012