Cofnodi 400 trosedd meithrin plant ar-lein yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn edrych ar sgrîn gliniadurFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bron i 400 achos o droseddau yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y 18 mis diwethaf, yn ôl yr NSPCC.

Cafodd 5,161 trosedd eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn ystod y cyfnod hwnnw.

Instagram, Facebook a Snapchat yw'r cyfryngau a ddefnyddiwyd mewn 70% o'r achosion cafodd eu cofnodi.

Mae'r NSPCC yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â Gwe'r Gorllewin Gwyllt (Wild West Web) i ben a chyflwyno rheoleiddio pellach o gyfryngau cymdeithasol i fynd i'r afael â'r broblem.

Cofnodi ers 2017

Ers cyflwyno cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn fel trosedd yn 2017, mae heddluoedd Cymru wedi cofnodi 378 o droseddau.

Gyda Heddlu'r De roedd y mwyafrif o droseddau a gafodd eu cofnodi, sef 204, tra bod gan Heddlu'r Gogledd 94 trosedd ar gofnod.

Roedd gan Heddlu Gwent 50 cofnod o droseddau meithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn ar-lein, ac roedd gan Heddlu Dyfed-Powys 32 cofnod.

Yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan yr elusen, roedd y plentyn ieuengaf a gafodd ei dargedu'n bump oed, ac ar y cyfan, merched ifanc rhwng 12 a 15 oed oedd yn cael eu targedu amlaf.

Ymysg y platfformau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu defnyddio i feithrin perthynas amhriodol gyda phlant ar-lein, mae Facebook, Instagram a Snapchat.

Roedd y defnydd o Instagram yn enwedig ar gynnydd yn ystod y 18 mis diwethaf.

Rhwng Ebrill 2017 a Medi 2017, lle'r oedd y ffurf o gyfathrebu yn cael ei gofnodi, cafodd Instagram ei ddefnyddio gan bobl mewn 126 achos.

Erbyn Ebrill 2018 a Medi 2018, cafodd Instagram ei ddefnyddio 428 gwaith.

Ffynhonnell y llun, Kerkez/Getty Images

Mae'r NSPCC yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno rheoliad statudol sy'n rhoi cyfrifoldeb dros ddyletswydd i ofalu am blant sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a hynny cyn cyhoeddiad Papur Gwyn Niwed Ar-lein.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth NSPCC Cymru, Des Mannion, bod y ffigyrau'n "dystiolaeth aruthrol na allwn roi'r cyfrifoldeb o ofalu am ein plant i gyfryngau cymdeithasol".

"Ni allwn aros am y trasiedi nesaf cyn i gwmnïau technoleg weithredu," meddai.

"Mae'n bryder mawr gweld cynnydd yn y nifer o droseddau ynglŷn â meithrin perthynas amhriodol ar-lein ar Instagram, ac mae'n hanfodol bod y cyfrwng yn cynnwys amddiffynfa sylfaenol i'r gwasanaeth mae'n ei gynnig i bobl ifanc.

"Ar ôl deg mlynedd o hunanreolaeth gan gyfryngau cymdeithasol, mae'n holl bwysig bod Papur Gwyn Niwed Ar-lein Llywodraeth y DU yn cynnwys deddfau newydd i waredu meithrin perthnasau amhriodol ar-lein unwaith ac am byth."