Creu darlun arbennig o Dewi Sant gyda 1,000 cennin Pedr

  • Cyhoeddwyd
Darlun Dewi SantFfynhonnell y llun, Cadw
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd hi chwe awr i roi'r darlun at ei gilydd

Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, mae darlun o nawddsant Cymru wedi ei greu gan ddefnyddio 1,000 o gennin Pedr.

Mae Nathan Wyburn, artist o Gymru, wedi gosod y darlun o fewn muriau Llys Esgob Tyddewi.

Cymerodd hi chwe awr i roi'r darlun 11m wrth 8m at ei gilydd ac mae'r darlun yn rhan o ymgyrch 'Ailddarganfod Hanes' grŵp Cadw.

Mr Wyburn oedd hefyd yn gyfrifol am greu darlun o Aneirin Bevan ger Tredegar er mwyn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70.