Carchar am 10 mlynedd i arweinydd giang Ymgyrch Zeus
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd menter gwerthu cyffuriau "syfrdanol" gwerth miliynau o bunnoedd wedi ei garcharu am 10 mlynedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Aled Gray, 35 oed o Gaergybi, yw'r olaf o'r 27 gafodd eu harestio yn ystod cyrch Ymgyrch Zeus i gael ei ddedfrydu.
Rhyngddyn nhw, cafodd y 27 eu dedfrydu i gyfanswm o 182 mlynedd ac 11 mis o garchar, yn ymgyrch gyffuriau fwyaf Heddlu'r Gogledd ers 20 mlynedd.
Cyfaddefodd Gray, sy'n berchen ar ddwy dafarn yng Nghaergybi, i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Dan arweiniad Gray a Matthew Jones, daeth dau grŵp o droseddwyr cyfundrefnol o Gaergybi a Llandudno at ei gilydd i greu consortiwm i brynu a chyflenwi cyffuriau.
Roedd y grŵp yn prynu cocên, heroin a chanabis o Lerpwl a Manceinion a'u gwerthu mewn cymunedau yn Ninbych, Conwy a Môn.
Llwyddodd Heddlu'r Gogledd i feddiannu gwerth £2.7m o gyffuriau Dosbarth A yn ystod cyrch Operation Zeus.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lee Boycott i rai aelodau o'r grŵp fod ar waith ers Hydref 2015.
"Ym mis Tachwedd 2017, dechreuwyd arestio'r troseddwyr. Hwn oedd y defnydd mwyaf o adnoddau'r heddlu ers sawl blwyddyn," meddai.
Dywedodd nad oedd "wedi gweld cynhyrchiant cyffuriau mor uchel" yn ystod ei gyfnod o 13 mlynedd yn gweithio i'r adran Troseddau Difrifol a Threfnedig.
Ymgyrch 'syfrdanol'
Yn ôl Gemma Vincent, o'r CPS, roedd y nifer o gyffuriau a oedd yn cael eu dosbarthu gan y grwpiau yn "syfrdanol".
"Dangosodd yr ymchwiliad bod dau grŵp troseddol wedi dod at ei gilydd i greu consortiwm a wnaeth elw sylweddol," meddai.
"Wrth wneud, roeddent wedi llwyddo i ddarparu cyffuriau Dosbarth A mewn tair sir ar hyd gogledd Cymru.
"Roedd yn fenter droseddol sefydlog a soffistigedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2017