Rhybudd am oedi ar rwydwaith rheilffyrdd de Cymru

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Trafnidiaeth Cymru sydd bellach yn rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau

Mae Network Rail wedi rhybuddio teithwyr y gallan nhw wynebu oedi ar rwydwaith rheilffyrdd de Cymru dros y penwythnos.

Dywedodd y cwmni bod hyn oherwydd gwaith moderneiddio ar y brif reilffordd ar hyd y de.

Bydd y gwaith hynny'n cael ei wneud ar benwythnosau trwy gydol mis Mawrth ac Ebrill.

Mae Network Rail yn annog teithwyr i gymryd golwg ar eu gwefan cyn dechrau ar eu taith.

'Gwaith hollbwysig'

Ardal Abertawe fydd yn cael ei heffeithio waethaf y penwythnos hwn, tra bod gwaith hefyd yn cael ei gynnal rhwng Caerdydd a'r cymoedd.

Bysiau fydd yn teithio yn hytrach na threnau rhwng Llanelli a Chaerdydd trwy gydol y penwythnos, a rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy ddydd Sul.

Dywedodd Cyfarwyddwr Profiad Teithwyr Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: "Ry'n ni'n cydnabod bod gwaith peirianneg yn amharu ar deithiau ein cwsmeriaid ac ry'n ni'n diolch iddyn nhw am eu hamynedd.

"Mae'r gwaith yma yn hollbwysig i wella'r rheilffordd yn ne Cymru a bydd y buddion i'w teimlo am flynyddoedd i ddod."