Creu cofrestr i wella gofal parlys yr ymennydd

  • Cyhoeddwyd
Sienna
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hayley Jones, sy'n gofalu am Sienna, 3, yn gobeithio bydd y gofrestr yn helpu teuluoedd a phlant

Bydd cofrestr genedlaethol o bobl sydd â pharlys yr ymennydd yn lansio wythnos nesaf wrth i ymgyrchwyr geisio gwella gofal i bobl sy'n byw â'r cyflwr.

Mae'r gofrestr yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn y gwasanaeth sydd ei angen, yn ôl arbenigwyr.

Barn ymgyrchwyr yw nad oes digon o wybodaeth am faint o bobl sy'n cael eu heffeithio gan barlys yr ymennydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cymeradwyo'r ymdrech i greu'r gofrestr.

Parlys yr ymennydd yw'r anabledd corfforol mwyaf cyffredin ymysg plant, gan effeithio ar un o bob 400 yn y DU.

Ond dywedodd y grŵp sy'n sefydlu'r gofrestr bod diffyg gwybodaeth am y boblogaeth sy'n byw â'r cyflwr yng Nghymru.

Mae oedran dioddefwyr, ble maen nhw'n byw a'u hanghenion unigol yn wybodaeth sydd ar goll, yn ôl yr ymgyrchwyr.

'Mater difrifol'

Eglurodd un o arweinwyr y cynllun, y paediatregydd Dr Rachel Lindoewood, y gall data sy'n cael ei gasglu o'r gofrestr helpu i adnabod bylchau yn narpariaeth gwasanaethau ar draws y wlad.

Dywedodd wrth raglen BBC Sunday Politics Wales: "Rydym yn gobeithio y gall y gofrestr ein helpu i ddatrys ble sydd angen i ni gyfeirio ein hadnoddau er mwyn pontio'r bylchau a chreu canlyniadau gwell i bobl sydd â pharlys yr ymennydd.

"Mae yna botensial y gall cyflyrau pobl sy'n byw â'r cyflwr waethygu a'u heffeithio'n hir dymor os nad ydyn nhw'n derbyn y gwasanaeth priodol.

"Mae'n fater difrifol sydd angen sylw brys."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Rachel Lindoewood bod angen "pontio'r bylchau" yn narpariaeth gwasanaethau

Bydd y gwasanaeth iechyd yn gwneud cofnod dienw o symptomau, asesiadau a gofal y bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.

Mae Hayley Jones, mam Sienna, sy'n dair oed ac yn byw â'r cyflwr, yn gobeithio y bydd y cynllun yn helpu teuluoedd a phlant eraill.

Ychwanegodd Ms Jones bod plant sydd â pharlys yr ymennydd "angen cymaint o wasanaethau".

"Trwy adnabod llawer o bobl sydd â pharlys yr ymennydd, chi'n gwybod sut gall yr holl wasanaethau gydweithio er mwyn sicrhau bod plant yn derbyn y gofal cywir," meddai.

'Gwella triniaeth'

Bydd Cofrestr Parlys yr Ymennydd Cymru - sy'n cael ei gyllido gan elusen Moondance Foundation - yn cael ei lansio yn y Senedd ddydd Mawrth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cymeradwyo'r angen i gasglu data mwy cadarn am gleifion er mwyn gwella triniaeth ac ymchwil".

"Dyma enghraifft wych o'r trydydd sector, GIG Cymru a chleifion yn cydweithio er mwyn gwella gofal i bobl sy'n byw â pharlys yr ymennydd," meddai llefarydd.