Ambiwlans awyr wedi ei alw i'r Bala wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
yr A494Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A494 yn Y Bala bellach wedi ailagor

Mae un person wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Bala fore Sul.

Roedd yr A494 wedi cau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger Stryd Arenig.

Cafodd ambiwlans awyr ei alw am 10:36, a chludo'r claf i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Nid oes unrhyw fanylion pellach am gyflwr y person oedd wedi'i anafu, ac mae'r ffordd bellach wedi ailagor.