Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Nant Gwynant

  • Cyhoeddwyd
Yr A498 ger hostel Bryn GwynantFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yr A498 ger hostel Bryn Gwynant

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn 56 oed wedi'i ladd wedi iddynt gael eu galw i ardal Nant Gwynant brynhawn Sul.

Credir bod y car wedi gadael ffordd yr A498 ger hostel Bryn Gwynant tua 13:00.

Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd wedi gweld car Mazda MX5 (rhif FN52 BN0) yn cael ei yrru rhwng Corwen a Nant Gwynant rhwng 5.20am ddydd Iau diwethaf a 1pm ddydd Sul.

Dywedodd y Cwnstabl Alun Jones: "Mae'r ymchwiliad yn ymwneud ag amgylchiadau'r gwrthdrawiad."

Doedd yna ddim cerbyd arall yn gysylltiedig â'r digwyddiad.